Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Teamworks Design & Communications

Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Dylunio, Brandio, Marchnata

Technoleg Iechyd Cymru

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gorff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru trwy gynhyrchu canllawiau ar ddefnydd technolegau newydd. Mae cylch gwaith HTW yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol, tele-fonitro neu adsefydlu.

Gwasanaethau: Ymchwil, Gwasanaethau Technegol
Math: Y GIG
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Arbenigedd: Nodi, Arfarnu, Economeg Iechyd, Sganio’r Gorwel

Technovent

Mae Technovent yn wneuthurwr a chyflenwr deunyddiau prosthetig y genau a'r wyneb, gan gynnwys elastomerau silicon, adlynion a systemau cadw magnetig.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Prosthetigau

TeloNostiX

Mae TeloNostix yn gwmni diagnosteg in vitro sy'n darparu dadansoddiad hyd telomerau eglur iawn ar gyfer cymwysiadau clinigol ac ymchwil. Gellir defnyddio’r dechnoleg hon i roi diagnosis i gleifion canser unigol, yn ogystal â rhagweld eu hymateb i driniaethau.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Ymchwil
Arbenigedd: Oncoleg, Canser, Diagnosteg, Meddygaeth Fanwl

Tendertec

Mae Tendertec yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd. Mae Tendertec wedi datblygu technolegau wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n defnyddio caledwedd a meddalwedd i fonitro iechyd beunyddiol pobl mewn lleoliadau gofal fel cartrefi gofal.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Gofal Cymdeithasol
Arbenigedd: Iechyd Digidol, Deallusrwydd Artiffisial, Gofal Cymdeithasol

The Baker Company

Mae The Baker Company yn weithgynhyrchwr cynhyrchion labordy fel cypyrddau diogelwch biolegol, meinciau glân a fume hoods ar gyfer cymwysiadau Biotechnoleg, fferyllol ac ymchwil glinigol. Yn 2011, prynodd Baker gwmni Ruskinn Technology ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwneuthurwyr gweithfannau anaerobig a gweithfannau lle mae'r atmosffer wedi'i addasu.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Ymchwil
Arbenigedd: Offer Labordy

The BBI Group

Mae BBI Solutions yn cynhyrchu a datblygu adweithyddion imiwno-diagnostigau a phrofion llif unffordd ac mae hefyd yn cynnig gwasanaethau sy’n cynnwys cynhyrchu gwrthgyrff personol, gweithgynhyrchu gwrthgyrff personol, datblygu profion llif unffordd, cyfuno aur a chyfaddasiadau antigenau.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Ymchwil
Arbenigedd: Diagnosteg

The Entrepreneur's Doctor

Busnes hyfforddi ac ymgynghori bach i entrepreneuriaid iechyd. Cafodd y busnes ei sefydlu gan Dr Behrooz Behbod, sef meddyg iechyd y cyhoedd a hyfforddwyd yn Harvard a Rhydychen, a'i nod yw grymuso entrepreneuriaid i greu byd iachach a hapusach. Ochr yn ochr ag addysgu gwybodaeth am y sector iechyd a busnes, rydym yn mynd ymlaen i drawsnewid eich arweinyddiaeth ac i ffynnu yn ystod newid.

Gwasanaethau: Ymgynghori, Addysg/Hyfforddiant, Gofal iechyd
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd, Gwasanaethau Cymorth Arloesi, Hyfforddiant
Arbenigedd: Hyfforddi Entrepreneuriaid Iechyd, Iechyd y Cyhoedd, Llesiant

The Science Behind

Mae The Science Behind yn wasanaeth ymchwil contract treialon clinigol sy'n cefnogi treialon clinigol cyfnod cynnar ym meysydd niwrowyddoniaeth a seicoleg. Mae'r cwmni'n cynnig offer ac arbenigedd ym maes Efelychu Magnetig Trawsgreuanol, electroffisioleg a phrofion gwybyddol.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Ymchwil
Arbenigedd: Gwasanaeth, Ymchwil Contractau, Niwrowyddoniaeth

Therapïau Uwch Cymru

Ariennir Rhaglen Therapïau Uwch Cymru gan Lywodraeth Cymru, a'i nod yw darparu mynediad teg i gleifion i Gynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMP) datblygol.

Gwasanaethau: Rhwydweithio, Seilwaith, Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Y GIG
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Therapi Celloedd, Therapi Genynnau, Meddygaeth Fanwl