Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

3D Pharma Consulting

Mae 3D Pharma Consulting yn cefnogi cwmnïau deillio, egin fusnesau a chwmnïau gwyddorau bywyd bach gyda’u prosesau datblygu cyffuriau, gan gynnwys helpu gyda systemau cyflenwi cyffuriau, llunio, datblygu prosesau, rheoli rhaglenni clinigol a chymorth IP.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Ymgynghori, Cynhyrchion Fferyllol, Cyflenwi Cyffuriau, Datblygu Cyffuriau

AAH Pharmaceuticals

Mae AAH Pharmaceuticals yn ddosbarthwr cynhyrchion fferyllol a gofal iechyd sy’n gwasanaethu fferyllfeydd, ysbytai a meddygon ledled y wlad, a dyma’r rhwydwaith fferyllfa gymunedol a chyfanwerthwr fferyllol mwyaf yn y DU. Mae pencadlys y cwmni yn Coventry, ond mae ganddo gangen yn Abertawe.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Cyfanwerthu, Meddyginiaethau Generig, Dros y Cownter, meddyginiaethau didrwydded (Specials)

ABClonal UK

Mae ABClonal yn gyflenwr labordai sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot. Mae ABClonal yn cyflenwi dros 15,000 o wrthgyrff monoclonaidd a polyclonaidd, offer bioleg foleciwlaidd, dros 1,000 o broteinau sydd wedi’u hailgyfuno, pecynnau ELISA, cyflenwadau labordy a gwasanaethau i ddatblygu deunydd crai IVD a chyflenwi cyffuriau biolegol.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Biotechnoleg, Ymchwil
Specialism: Diagnosteg, Cyflenwi Cyffuriau, Cyflenwadau Labordy

Abel + Imray

Mae Abel + Imray yn atwrneiod patentau sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y sectorau gofal iechyd, gwyddorau bywyd a fferyllol. Mae gan y cwmni swyddfa yng Nghaerdydd.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Biotechnoleg, Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Eiddo Deallusol, Patentau

Aber Instruments

Mae Aber Instruments yn datblygu datrysiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiannau bragu a biotechnoleg, gan gynnwys offer a synwyryddion mesur biomas. Mae’r cwmni’n cyflenwi rhai o gwmnïau fferyllol a bragu mwyaf y byd, gan gynnwys Glaxo Smithkline, Novartis, ABInBev, Heineken a SAB miller. Mae pencadlys y cwmni yn Aberystwyth.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Biotechnoleg
Specialism: Monitro biomas, Mesur cynhwysiant, Monitro burum

Academi Arwain Trawsnewid Digidol - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol De Cymru

Mae’r Academi Arwain Trawsnewid Digidol ym Mhrifysgol De Cymru yn Academi Dysgu Dwys sydd â’r nod o ddod â chymuned o arweinwyr â ffocws digidol a darpar arweinwyr o bob rhan o'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector at ei gilydd. Cydweithio ar draws y sector o ran cyfleoedd ymchwil, gwybodaeth a dysgu, datblygu dulliau atal newydd ac astudiaethau doethuriaeth sy’n seiliedig ar ymchwil i gynnal gwaith ymchwil manwl ar gyfer trosi ymchwil yn ganlyniadau atal.

Services: Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Prifysgol
Sector: Academia, Iechyd Digidol, Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Hyfforddiant arweinyddiaeth iechyd digidol, Trawsnewid Digidol, Rhaglenni ôl-raddedig, Cyrsiau unigol, Dysgu wyneb yn wyneb, Gweithdai ar-lein

Academi Dysgu Dwys Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, Prifysgol Abertawe

Mae Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth Prifysgol Abertawe yn Academi Dysgu Dwys sy’n cynnig cyrsiau addysgol, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth. Yr Academi yw partner academaidd y rhaglen Gwerth-mewn-Iechyd yng Nghymru ac mae’n rhan o Hyb Arloesi Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd.

Services: Ymgynghori, Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Prifysgol
Sector: Academia, Gofal iechyd, Diwydiant (Arall), Gofal Cymdeithasol
Specialism: Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Hyfforddiant rheoli gofal iechyd, Rhaglenni ôl-radd, Cyrsiau unigol, Dysgu wyneb yn wyneb, Gweithdai ar-lein

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol Bangor

Mae Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor yn Academi Dysgu Dwys (ILA), sydd wedi cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Academi’n canolbwyntio ar gyflymu’r gwaith o hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol mewn ymarfer ar draws ecosystem gofal iechyd integredig (fel iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a diwydiannau gwyddorau bywyd) ac mewn cyd-destun dwyieithog. Bydd yn datblygu rhwydwaith o arweinwyr gwybodus a deinamig sy’n gallu sbarduno newid er mwyn mynd i’r afael ag iechyd a heriau cymdeithasol cysylltiedig.

Services: Ymgynghori, Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Prifysgol
Sector: Academia, Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Tegwch iechyd, Iechyd y boblogaeth, Iechyd ataliol, Rhaglenni ôl-radd, Cyrsiau unigol, Dysgu wyneb yn wyneb, Gweithdai ar-lein

Acuity Law

Mae Acuity Law yn gwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae’r cwmni’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gofal iechyd a thechnoleg feddygol, gydag arbenigedd mewn delio ag achosion o uno a chaffael, trefniadau ecwiti a chontractau masnachol.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd, Gofal iechyd
Specialism: Cyfraith Contractau, Cyfraith Buddsoddi, Uno a Chaffael

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae AaGIC (sy’n rhan o GIG Cymru) yn gyfrifol am addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.

Services: Hyfforddiant ac Addysg
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol, Academia
Specialism: Cynllunio’r Gweithlu, Addysg Iechyd, Cefnogi Staff