Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol Bangor

Mae Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor yn Academi Dysgu Dwys (ILA), sydd wedi cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Academi’n canolbwyntio ar gyflymu’r gwaith o hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol mewn ymarfer ar draws ecosystem gofal iechyd integredig (fel iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a diwydiannau gwyddorau bywyd) ac mewn cyd-destun dwyieithog. Bydd yn datblygu rhwydwaith o arweinwyr gwybodus a deinamig sy’n gallu sbarduno newid er mwyn mynd i’r afael ag iechyd a heriau cymdeithasol cysylltiedig.

Gwasanaethau: Ymgynghori, Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Prifysgol
Sector: Academia, Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Arbenigedd: Tegwch iechyd, Iechyd y boblogaeth, Iechyd ataliol, Rhaglenni ôl-radd, Cyrsiau unigol, Dysgu wyneb yn wyneb, Gweithdai ar-lein

Acuity Law

Mae Acuity Law yn gwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae’r cwmni’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gofal iechyd a thechnoleg feddygol, gydag arbenigedd mewn delio ag achosion o uno a chaffael, trefniadau ecwiti a chontractau masnachol.

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd, Gofal iechyd
Arbenigedd: Cyfraith Contractau, Cyfraith Buddsoddi, Uno a Chaffael

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae AaGIC (sy’n rhan o GIG Cymru) yn gyfrifol am addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.

Gwasanaethau: Hyfforddiant ac Addysg
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol, Academia
Arbenigedd: Cynllunio’r Gweithlu, Addysg Iechyd, Cefnogi Staff

Afferent Medical Solutions

Mae Afferent Medical Solutions yn gwmni meddygaeth bioelectroneg sy’n datblygu datrysiadau niwromodwleiddio sy’n seiliedig ar ddyfeisiau ar gyfer trin clefydau’r system gylchredol a meysydd therapiwtig eraill.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Niwromodwleiddio, System Gylchredol

Afon Technology

Mae Afon Technology wedi datblygu Glucowear, monitor glwcos gwaed parhaus nad yw’n fewnwthiol, y gellir ei wisgo, sy’n cysylltu â chymhwysiad symudol. Nid yw'r ddyfais wedi'i lansio eto, ond gallai fod yn addas i gleifion â diabetes fonitro lefelau glwcos eu gwaed.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Ymchwil
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Iechyd Digidol
Arbenigedd: Iechyd Digidol, Diabetes

Age UK

Mae Age UK yn ceisio creu byd lle gall pobl hŷn fyw eu bywydau heb dlodi, unigedd ac esgeulustod. Mae’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yn y DU a thramor, yn ymchwilio ac yn ymgyrchu dros newidiadau mewn polisi ac arferion, ac yn cynnig cymorth ymarferol i bobl hŷn dan anfantais. Mae'n cael ei ariannu gan unigolion, cwmnïau ac ymddiriedolaethau.

Gwasanaethau: Cymorth Gofal, Codi Ymwybyddiaeth
Math: Elusen
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Arbenigedd: Cymorth Henaint,
Cymorth i'r Henoed

Agile Kinetic

Mae Agile Kinetic yn gwmni meddalwedd fel dyfeisiau meddygol (SaMD) sy'n arbenigo mewn dadansoddi symudiad gan ddefnyddio dyfeisiau tabled, gwe-gamerâu a ffonau clyfar safonol. Mae’r meddalwedd blaenllaw MoveLab® yn defnyddio data sy'n seiliedig ar y golwg a synwyryddion ffonau clyfar i gynnal asesiadau symud sy'n olrhain ystod ac ansawdd symudiad cymalau lluosog, yn ogystal â digideiddio asesiadau symudiad clinigol; gan gynnwys dadansoddi cerddediad, prawf Codi-a-Cherdded wedi’i amseru, a phrawf Codi-ac-Eistedd am 30 eiliad. Mae modd dadansoddi drwy ddefnyddio dyfeisiau clinigwyr neu gleifion, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell, sydd â rhaglenni sy’n ymdrin ag orthopedeg, cyflyrau cyhyrysgerbydol, niwroleg, heneiddio’n iach, orthoteg a phrostheteg.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Iechyd Digidol, Orthopedeg, Strôc, Symud, AI

Agxio

Mae Agxio yn gwmni deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a dysgu peirianyddol sy’n arbenigo yn y diwydiannau Biotechnoleg, gwyddorau bywyd a gwyddorau amaethyddol, gan gynnwys ar gyfer dadansoddi microbïom, dylunio cyffuriau parasitoleg a dadansoddi ymddygiad anifeiliaid.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Biotechnoleg
Arbenigedd: Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol, Gwyddor Data

Ai Healthcare

Mae Ai Healthcare yn cyflenwi offer technegol ar gyfer practisau meddygol, deintyddol a milfeddygol, gan gynnwys cyfarpar tawelyddu nwy, delweddu digidol, dadhalogi a datrysiadau llawfeddygol. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â dylunio ac adnewyddu ystafelloedd llawfeddygol.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Dylunio Meddygfeydd, Offer Meddygol

Alesi Surgical

Mae Alesi Surgical yn datblygu ac yn masnacheiddio cynnyrch sy’n gwella diogelwch, effeithlonrwydd a chanlyniadau triniaethau llawfeddygol manwl. Sefydlwyd y cwmni fel cwmni deillio o Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT). Mae cynnyrch Alesi Surgical, ULTRAVISION ac ULTRAVISION2, yn lleihau mwg llawfeddygol mewn ystafelloedd llawfeddygol heb fod angen cyfnewid CO2, gan wella gwelededd, lleihau'r angen i lanhau camerâu a lleihau’r defnydd o CO2 mewn adrannau. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cael cymeradwyaeth FDA ar gyfer ULTRAVISION2.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Technoleg lawfeddygol, llawdriniaeth laparosgopig