Axiom MS
Mae Axiom yn gwmni gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi electroneg contract sy’n darparu gwasanaethau i OEMs yn y sector meddygol.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2025
Mae Axiom yn gwmni gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi electroneg contract sy’n darparu gwasanaethau i OEMs yn y sector meddygol.
Mae Banc Datblygu Cymru yn fanc sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau Cymru, gan gynnwys benthyciadau busnes a buddsoddiad ecwiti. Rhoddwr benthyciadau unigryw yng Nghymru.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Mae rhaglenni a phrosiectau’r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol, gan gynnwys cyflymu economaidd, gwyddorau bywyd a lles, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen o gydweithio, sydd wedi ymrwymo i fod yn gatalydd ar gyfer twf rhanbarthol a llwyddiant cynaliadwy yn ne-ddwyrain Cymru mewn sawl maes, gan gynnwys technoleg ariannol, lled-ddargludyddion cyfansawdd a technoleg feddygol.
Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn fargen £110 miliwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys. Mae'r fargen yn cael ei chyflwyno fel portffolio o brosiectau sydd wedi'u cwmpasu o'r wyth maes blaenoriaeth twf strategol, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesedd Cymhwysol, Cefnogi Mentergarwch, Digidol, a Sgiliau a Chyflogaeth.
Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad gwerth £240m a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nod y buddsoddiad hwn yw gwella’r economi yng ngogledd Cymru drwy adeiladu ar gryfderau fel gweithgynhyrchu gwerth uchel, Bwyd-amaeth ac Ynni Carbon Isel.
Mae Bee Robotics yn dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau robotig ar gyfer awtomeiddio trin hylifau mewn labordai biotechnoleg. Gellir defnyddio offer y cwmni i awtomeiddio technegau labordy cyffredin, fel profion Western Blot ac echdynnu DNA, ac fe’u cymeradwyir i’w defnyddio mewn profion diagnostig clinigol.
Mae Benchmark Skincare wedi datblygu Derma Shield, dyfais feddygol sydd ar gael fel aerosol, hufen neu eli i amddiffyn rhag dermatitis cyswllt llidiog.
Mae Benson Viscometers yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu fisgomedrau clinigol a chyfarpar mesur gwaed o ansawdd uchel i'w defnyddio mewn labordai patholeg. Mae BV1 a BV200 Benson Viscometers yn mesur gludedd hylifau biolegol dynol, gan gynnwys plasma gwaed, serwm gwaed, gwaed cyfan a hylif synofaidd, i helpu i wneud diagnosis o glefydau, gan gynnwys anhwylderau cronig, myeloma neu facroglobwlinaemia Waldenstrom.
Mae BGF yn gwmni buddsoddi annibynnol gydag 16 o swyddfeydd yn y DU, gan gynnwys swyddfa yng Nghaerdydd. Mae BGF yn buddsoddi mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys technoleg uwch, gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £38m mewn busnesau yng Nghymru.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.