Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Axiom MS

Mae Axiom yn gwmni gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi electroneg contract sy’n darparu gwasanaethau i OEMs yn y sector meddygol.

Services: Gweithgynhyrchu
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Gweithgynhyrchu

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn fanc sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau Cymru, gan gynnwys benthyciadau busnes a buddsoddiad ecwiti. Rhoddwr benthyciadau unigryw yng Nghymru.

Services: Ariannu
Math: Llywodraeth: Cenedlaethol
Sector: Gwyddorau Bywyd
Specialism: Cyllid, buddsoddiad angylion, cyllid ecwiti, grantiau

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Mae rhaglenni a phrosiectau’r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol, gan gynnwys cyflymu economaidd, gwyddorau bywyd a lles, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.

Services: Ariannu, Rhwydweithio
Math: Llywodraeth: Lleol
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Cronfeydd Her, gwyddorau bywyd a lles, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen o gydweithio, sydd wedi ymrwymo i fod yn gatalydd ar gyfer twf rhanbarthol a llwyddiant cynaliadwy yn ne-ddwyrain Cymru mewn sawl maes, gan gynnwys technoleg ariannol, lled-ddargludyddion cyfansawdd a technoleg feddygol.

Services: Ariannu, Rhwydweithio
Math: Llywodraeth: Lleol
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Cronfeydd her, Technoleg ariannol, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Thechnoleg Feddygol

Bargen Dwf Canolbarth Cymru

Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn fargen £110 miliwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys. Mae'r fargen yn cael ei chyflwyno fel portffolio o brosiectau sydd wedi'u cwmpasu o'r wyth maes blaenoriaeth twf strategol, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesedd Cymhwysol, Cefnogi Mentergarwch, Digidol, a Sgiliau a Chyflogaeth.

Services: Ariannu, Rhwydweithio
Math: Llywodraeth: Lleol
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Cronfeydd Her, ymchwil ac arloesi, cymorth busnes, digidol

Bargen Dwf Gogledd Cymru

Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad gwerth £240m a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nod y buddsoddiad hwn yw gwella’r economi yng ngogledd Cymru drwy adeiladu ar gryfderau fel gweithgynhyrchu gwerth uchel, Bwyd-amaeth ac Ynni Carbon Isel.

Services: Ariannu, Rhwydweithio
Math: Llywodraeth: Lleol
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Cronfeydd Her, gweithgynhyrchu, ynni, amaethyddiaeth

Bee Robotics

Mae Bee Robotics yn dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau robotig ar gyfer awtomeiddio trin hylifau mewn labordai biotechnoleg. Gellir defnyddio offer y cwmni i awtomeiddio technegau labordy cyffredin, fel profion Western Blot ac echdynnu DNA, ac fe’u cymeradwyir i’w defnyddio mewn profion diagnostig clinigol.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Biotechnoleg, Technoleg Feddygol
Specialism: Diagnosteg, Awtomeiddio

Benchmark Skincare

Mae Benchmark Skincare wedi datblygu Derma Shield, dyfais feddygol sydd ar gael fel aerosol, hufen neu eli i amddiffyn rhag dermatitis cyswllt llidiog.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Gofal croen, dermatoleg

Benson Viscometers

Mae Benson Viscometers yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu fisgomedrau clinigol a chyfarpar mesur gwaed o ansawdd uchel i'w defnyddio mewn labordai patholeg. Mae BV1 a BV200 Benson Viscometers yn mesur gludedd hylifau biolegol dynol, gan gynnwys plasma gwaed, serwm gwaed, gwaed cyfan a hylif synofaidd, i helpu i wneud diagnosis o glefydau, gan gynnwys anhwylderau cronig, myeloma neu facroglobwlinaemia Waldenstrom.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Hematoleg

BGF Wales

Mae BGF yn gwmni buddsoddi annibynnol gydag 16 o swyddfeydd yn y DU, gan gynnwys swyddfa yng Nghaerdydd. Mae BGF yn buddsoddi mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys technoleg uwch, gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £38m mewn busnesau yng Nghymru.

Services: Ariannu
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd
Specialism: Cyllid cyfalaf menter