Bowel Cancer UK
Mae Bowel Cancer UK yn anelu at achub bywydau a gwella ansawdd bywyd pawb sydd wedi'u heffeithio gan ganser y coluddyn.
Cyllid Ymchwil
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Bowel Cancer UK yn anelu at achub bywydau a gwella ansawdd bywyd pawb sydd wedi'u heffeithio gan ganser y coluddyn.
Mae Bowmed Ibisqus yn gwmni yn Wrecsam sy’n datblygu fersiynau generig y gellir eu chwistrellu o gyffuriau gwrthfacterol ar gyfer y farchnad gofal eilaidd.
Mae Brainbox yn cyflenwi offer ymchwil niwrowyddoniaeth, gan gynnwys peiriannau, ategolion a deunyddiau traul ar gyfer Efelychu Magnetig Trawsgreuanol, Uwchsain â Ffocws Trawsgreuanol, Ysgogi Trydanol Trawsgreuanol ac Electroenceffalograffi / Magnetoenceffalograffi.
Breast Cancer Now yw elusen canser y fron
fwyaf y DU sy'n ymroddedig i ariannu ymchwil i'r clefyd dinistriol hwn. Mae'r elusen yn dod â phawb sy'n cael eu heffeithio gan y clefyd at ei gilydd i wella'r gwaith o atal, canfod, trin a dileu canser y fron.
Y BHF yw cyllidwr annibynnol mwyaf y
DU ar gyfer ymchwil cardiofasgwlaidd. Ers dros 60 mlynedd, mae'r BHF wedi arloesi mewn ymchwil achub bywydau sydd wedi helpu i haneru nifer y marwolaethau o glefyd y galon a chylchrediad y gwaed yn y DU. Mae'r BHF hefyd yn helpu i roi cymorth a gwybodaeth hanfodol i'r 7.4m o bobl sy'n byw yn y DU gyda chlefyd y galon a chylchrediad y gwaed.
Mae British Rototherm yn wneuthurwyr byd-eang o ddatrysiadau mesur tymheredd, gwasgedd, crynodiad hylif, lefel anymwthiol, carbon deuocsid toddedig a llif. Mae British Rototherm yn cyflenwi synwyryddion tymheredd a thechnoleg mesur prosesau i'r diwydiant fferyllol.
Mae BUDDY yn darparu gorchuddion corff sy’n dal dŵr a gorchudd untro ar gyfer theatrau llawfeddygol.
Mae Bush Healthcare yn adwerthwr symudedd yng Nghymru sy’n darparu cyfarpar symudedd a gofal iechyd fel cadeiriau olwyn, cynnyrch gofal ymataliaeth a chymhorthion byw eraill.
Mae Busnes Cymru yn gorff Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth a chyngor i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnesau yng Nghymru. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig mynediad at gyfleoedd ariannu Llywodraeth Cymru.
Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau GIG, iechyd a lles ym Mhowys.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.