Carleton Medical
Mae Carleton Medical yn cyflenwi laserau llawfeddygol i'r GIG a'r sector meddygol preifat.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Carleton Medical yn cyflenwi laserau llawfeddygol i'r GIG a'r sector meddygol preifat.
Mae CatSci yn cynnig gwasanaethau cemegol, gweithgynhyrchu a rheoli (CMC) i gwmnïau fferyllol. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys datblygu cyffuriau moleciwlau bach yn gynnar ac yn hwyr, yn ogystal ag ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu oligonicleotidau a therapiwteg sy'n seiliedig ar RNA.
Mae Cefndy yn cynhyrchu a chyflenwi cymhorthion ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys canllawiau cydio, cadeiriau olwyn, cadeiriau a stolion cawodydd, slingiau, a chynnyrch gofal dementia.
Mae CellPath yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynnyrch histoleg, patholeg a seitoleg, gan gynnwys offer a deunyddiau traul. Yn 2022, prynwyd CellPath gan StatLab Medical Products yn UDA.
Mae Celtic SMR yn darparu datrysiadau diagnostig a therapiwtig i’r diwydiannau gofal iechyd a milfeddygol. Mae’r cynnyrch yn cynnwys offer pelydr X, systemau pelydr-x cludadwy a sefydlog, systemau uwchsain diagnostig a magnetotherapi.
Mae Celtic Therapy and Rehab Services yn cyflenwi cadeiriau olwyn a seddi, ac maen nhw’n gallu darparu addasiadau pwrpasol.
Mae Cerebra yn ariannu ymchwil, yn rhannu
gwybodaeth, yn cefnogi rhieni a gofalwyr ac yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol yn bennaf i blant a phobl ifanc sydd ag anafiadau i’r ymennydd.
Mae Ceryx Medical yn gwmni bioelectroneg sy’n datblygu amrywiaeth o ddyfeisiau meddygol sy’n gallu rhyngweithio â chorff claf. Cynnyrch cyntaf y cwmni yw rheolydd calon sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer trin methiant y galon.
Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.
Mae Clear_Pixel VR yn cynnig rhaglenni hyfforddiant gweithdrefnol sy'n seiliediag ar labordai realiti rhithwir, sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer labordy mewn amgylchedd rhithwir. Yn benodol, mae Clear_Pixel VR wedi datblygu modiwlau hyfforddiant niwrowyddoniaeth i ddefnyddwyr allu ymarfer arbrofion electroffisioleg.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.