Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Flexicare

Mae Flexicare yn dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu ac yn cyflenwi dyfeisiau meddygol. Mae portffolio cynnyrch y cwmni'n cwmpasu systemau ar gyfer rheoli'r llwybr anadlu, anadlu o dan anaesthesia, anadlu dan reolaeth peiriant anadlu, therapi ocsigen ac aerosol, dadebru, sugno, a gofal wroleg; cydrannau anaesthesia; a hidlyddion anadlu.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Resbiradaeth, Wroleg

Flogas

Mae Flogas yn cyflenwi Nwy Petrolewm Hylifedig i gwsmeriaid cartref a busnes. Yn 2012, prynodd Flogas y cwmni Medical GAS Solutions Limited, sef cwmni nwy yn y Fflint sy’n arbenigo mewn nwy meddygol. Mae Flogas bellach yn cyflenwi nwy meddygol i’r diwydiant gofal iechyd, gan gynnwys i ysbytai a’r gwasanaethau brys.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Nwy Meddygol

Forth

Mae Forth wedi datblygu profion gwaed yn y cartref (gan gynnwys profion hormonau, maeth, ffrwythlondeb, chwaraeon ac iechyd cyffredinol) sydd wedyn yn cael eu hanfon i labordy’r GIG lle mae profion yn cael eu cwblhau. Bydd meddygon teulu Forth hefyd yn rhoi sylwadau ar y canlyniadau hyn.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Gofal iechyd
Specialism: Iechyd Defnyddwyr, Iechyd Digidol, Profion yn y cartref

Freudenberg Performance Materials

Mae Freudenberg Performance Materials yn gwmni tecstilau sy’n cynhyrchu ac yn marchnata cynnyrch heb ei wehyddu. Mae’r cwmni wedi datblygu datrysiadau gofal clwyfau gan ddefnyddio’r deunyddiau hyn, yn ogystal â chyfarpar diogelu personol fel mygydau wyneb. Mae gan y cwmni safle yng Nglynebwy.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Gofalu am glwyfau, PPE

FRIO

Mae FRIO wedi datblygu waledi meddyginiaeth patentedig a waledi oeri inswlin. Gan ddefnyddio crisialau a ddatblygwyd yn arbennig sy'n trawsnewid yn jel oer pan gaiff ei actifadu gan ddŵr, mae modd defnyddio prosesau anweddu i ailwefru waledi FRIO yn llawn ac atal yr inswlin, a sawl meddyginiaeth arall sy'n sensitif i dymheredd, rhag dirywio.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Diabetes, Rheoli Meddyginiaeth

Frontier Medical Group

Mae Frontier Medical yn ddarparwr dyfeisiau meddygol ar gyfer datrysiadau gofal briwiau pwyso, gan gynnwys arwynebau cynnal, unedau troi cleifion, tiwbiau anadlu a dodrefn.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Defnyddiau Traul, Dodrefn Meddygol, Cymhorthion Cleifion

Fulcrum Direct

Mae Fulcrum Direct yn ymgynghoriaeth ymchwil i'r farchnad yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn darparu ymchwil i'r farchnad sylfaenol yn y diwydiannau gwyddorau bywyd a biotechnoleg.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Biotechnoleg
Specialism: Ymchwil i’r Farchnad

Gatehouse ICS

Mae Gatehouse ICS yn ymgynghoriaeth ymchwil i’r farchnad a datblygu busnes yn y diwydiannau fferyllol, biotechnoleg, technoleg feddygol a diagnosteg.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Biotechnoleg, Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Ymchwil i’r Farchnad

Global Welsh

Mae Global Welsh yn darganfod ac yn dathlu cyflawniadau a llwyddiant Cymru lle bynnag y maen nhw’n digwydd yn y byd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, arloeswyr ac anturiaethwyr yng Nghymru.

Services: Rhwydweithio, Digwyddiadau
Math: Sefydliad Ymchwil
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Cydweithio rhyngwladol, allforio, cyllid, digwyddiadau, rhwydweithio

Glucose Republic

Mae Glucose Republic yn gwmni meddalwedd sy’n adeiladu cymhwysiad symudol sy’n galluogi pobl i fesur a rhagweld eu hymatebion metabolaidd i fwydydd gwahanol. Bydd yr ap hefyd yn darparu argymhellion i ddefnyddwyr sy’n awyddus i reoli lefelau siwgr yn eu gwaed.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol
Specialism: Iechyd Digidol