Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

DTR Medical

Mae DTR Medical yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n cynnig offer llawfeddygol untro. Mae'r cwmni'n cynnig cynnyrch ym meysydd gynaecoleg, niwrolawdriniaeth, offthalmeg, yr ên a’r wyneb, y glust, y trwyn a'r gwddf, llawfeddygaeth gyffredinol, ac orthopaedeg.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Defnydd Untro, Cyflenwadau Meddygol

Dynamic Extractions

Mae Dynamic Extractions yn gwmni deillio llwyddiannus o Brifysgol Brunel (sydd wedi’i leoli yn Nhredegar erbyn hyn). Cafodd ei sefydlu i fasnacheiddio’r dechnoleg Cromatograffaeth Gwrthgerrynt Hydrodynamig (HdCCC) a ddatblygwyd gan Sefydliad Biobeirianneg Brunel (BIB). Mae gan y dechnoleg y potensial i gael ei ddefnyddio ym maes sgrinio trwybwn uchel ar gyfer darganfod cyffuriau a datblygu prosesau mewn defnydd masnachol ar raddfa fawr.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Biotechnoleg
Arbenigedd: Cromatograffeg

E2L

Mae E2L yn gwmni dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg cynhyrchion electronig. Mae gan y cwmni ddwy adran, gydag un yn canolbwyntio ar ddylunio caledwedd electronig a meddalwedd wedi’i fewnosod, a’r llall sy’n gweithgynhyrchu ac yn marchnata ei gynnyrch ei hun. Mae’r cwmni wedi datblygu sawl cynnyrch yn y diwydiant gofal iechyd, gan gynnwys offer hyfforddi ac offer ar gyfer gofal dementia.

Gwasanaethau: Ymgynghori, Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Gofal iechyd
Arbenigedd: Dylunio, Ymgynghori, Gweithgynhyrchu, Electroneg

Eakin Surgical

Mae Eakin Surgical yn wneuthurwr offer llawfeddygol untro. Mae’r cynhyrchion yn cynnwys gefel, bachau, tiwbiau ac offer sugno.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Llawfeddygol

eHealth Digital Media

Mae eHealth Digital Media yn gwmni iechyd digidol sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi datblygu PocketMedic, cymhwysiad symudol sy’n cynnwys llyfrgell o ffilmiau i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae ffilmiau ar gael ar gyfer ystod o afiechydon, gan gynnwys diabetes, lymffoedema, methiant y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ymarfer corff gyda chlefyd yr ysgyfaint, poen cronig, gwella o ganser, lles, atal briwiau pwyso, a gofal diwedd oes.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Iechyd Digidol, Adnoddau Cleifion

EKF Diagnostics

Mae EKF Diagnostics yn gwmni diagnosteg in vitro sy'n dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a marchnata dadansoddwyr pwynt gofal i fesur haemoglobin, HbA1c a glwcos at ddiben sgrinio a monitro clefydau, yn ogystal â chynhyrchu dyfeisiau labordy, profion a deunyddiau traul. Mae gan EKF hefyd uned gweithgynhyrchu dan gontract ar gyfer cynhyrchion diagnostig newydd.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Gweithgynhyrchu
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Diagnosteg

Energist

Mae Energist, sy’n is-gwmni Energist Medical Group, yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata NeoGen Plasma, technoleg plasma nitrogen ar gyfer y farchnad esthetig meddygol. Gellir defnyddio’r dechnoleg i drin cyflyrau ar y croen megis ceratosis a chreithiau acne.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Technoleg Laser, Dermatoleg

Enzyme Research Laboratories

Mae Enzyme Research Laboratories yn cynhyrchu ac yn dosbarthu ensymau a chydffactorau a ddefnyddir ym maeas ymchwil ceulo. Mae’r cynhyrchion a gynigir yn cynnwys zymogens ac ensymau wedi’u puro, gwrthgyrff monoclonal i ffactorau ceulo ac adweithyddion ELISA.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Ymchwil
Arbenigedd: Ceulo, Cyflenwadau Labordy

ESI Technologies Group

Mae ESI Technologies yn gyflenwr Datrysiadau Peirianneg a Chyfarpar Prosesu ar gyfer y diwydiannau Biotechnoleg, Cynnyrch Fferyllol, Cemegol, Lled-ddargludyddion, Bwyd a Diod. O fewn y diwydiannau biotechnoleg a fferyllol, mae’r cwmni’n darparu cyfarpar prosesu nodweddiadol fel offer, falfiau a dyfeisiau hidlo, yn ogystal â chyfarpar untro fel cynwysyddion a phympiau biobroses. Mae gan ESI safle yn Nhorfaen.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Biotechnoleg
Arbenigedd: Offer Prosesu

ETS Medical

Mae ETS Medical yn darparu gwasanaethau cludiant a chludo i’r GIG a’r sector gofal iechyd ehangach. Mae hyn yn cynnwys cludo cleifion, yn ogystal â samplau, meddyginiaeth a sbesimenau patholegol.

Gwasanaethau: Gofal iechyd, Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Trafnidiaeth