Frontier Medical Group
Mae Frontier Medical yn ddarparwr dyfeisiau meddygol ar gyfer datrysiadau gofal briwiau pwyso, gan gynnwys arwynebau cynnal, unedau troi cleifion, tiwbiau anadlu a dodrefn.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Frontier Medical yn ddarparwr dyfeisiau meddygol ar gyfer datrysiadau gofal briwiau pwyso, gan gynnwys arwynebau cynnal, unedau troi cleifion, tiwbiau anadlu a dodrefn.
Mae Fulcrum Direct yn ymgynghoriaeth ymchwil i'r farchnad yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn darparu ymchwil i'r farchnad sylfaenol yn y diwydiannau gwyddorau bywyd a biotechnoleg.
Mae Gatehouse ICS yn ymgynghoriaeth ymchwil i’r farchnad a datblygu busnes yn y diwydiannau fferyllol, biotechnoleg, technoleg feddygol a diagnosteg.
Mae Global Welsh yn darganfod ac yn dathlu cyflawniadau a llwyddiant Cymru lle bynnag y maen nhw’n digwydd yn y byd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, arloeswyr ac anturiaethwyr yng Nghymru.
Mae Glucose Republic yn gwmni meddalwedd sy’n adeiladu cymhwysiad symudol sy’n galluogi pobl i fesur a rhagweld eu hymatebion metabolaidd i fwydydd gwahanol. Bydd yr ap hefyd yn darparu argymhellion i ddefnyddwyr sy’n awyddus i reoli lefelau siwgr yn eu gwaed.
Mae GAD Cymru yn cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn darparu goruchwyliaeth a chyfeiriad i ofal a alluogir gan dechnoleg yng Nghymru drwy weithio gyda sefydliadau i ddylunio a darparu gwasanaethau sy’n gallu diwallu anghenion defnyddwyr yn well drwy dechnoleg.
Nod cyffredinol Tenovus yw nodi cyfleoedd i ariannu ymchwil o ansawdd uchel i ganserau mawr sy'n effeithio ar ddynion, menywod a phlant. Yn ogystal, nod Tenovus yw darparu cymorth ariannol seicolegol, seicogymdeithasol ac ymarferol i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser, i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o faterion canser ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym maes gofal ac ymchwil cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.
Mae GoggleMinds yn datblygu rhaglenni hyfforddi ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol y gellir eu darparu drwy VR neu liniaduron. Mae'r rhaglenni hyfforddi yn cwmpasu arbenigeddau clinigol, gan gynnwys meddygaeth, nyrsio, llawfeddygaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.
Mae GPC Systems yn gwmni meddalwedd 3D o Abertawe a gafodd ei sefydlu yn 2010. Mae GPC yn datblygu meddalwedd sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd, gan gynnwys rhaglen symudol i fesur maint clwyfau, ap i gynorthwyo ymarferwyr cyffredinol drwy ddarparu diagnosis posibl ac ap cyfathrebu cleifion-clinigwyr.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.