Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n rhyngwyneb deinamig, sy’n cysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd cyllido a defnyddwyr - timau iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen - i gefnogi llesiant ac, yn y pen draw, creu twf, swyddi a ffyniant ledled Cymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig cefnogaeth helaeth ar unrhyw gam ar y daith ddatblygu, hyd at y cam y bydd y defnyddiwr yn ei fabwysiadu. Boed hynny’n gymorth ariannol ac arweiniad, rheoli prosiectau, datblygu partneriaethau, neu unrhyw un o’n gwasanaethau cymorth penodol eraill.

Services: Digwyddiadau, Cymorth Gweithredu Arloesi, Rhwydweithio
Math: Nid-er-elw
Sector: Gofal iechyd, Gwasanaethau Cymorth Arloesi, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Mabwysiadu arloesedd, datblygu achosion busnes, cymorth ariannol, rheoli prosiectau, ymchwil i’r farchnad

Hybrisan

Mae Hybrisan yn gwmni datblygu cynnyrch technoleg feddygol sydd wedi datblygu platfform WoundSan, sef datrysiad dyfrhau clwyfau sy’n amharu ar fioffilmiau sy’n ffurfio dros glwyfau cronig er mwyn gwella’r broses o wella ac atal haint.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Gofal Clwyfau

Hyderus Cyf

Mae Hyderus yn ymgynghoriaeth ymgynghorol iechyd sy’n cynnig gwasanaethau sy’n cynnwys ymchwil i’r farchnad a pholisi, gwybodaeth am fusnes, cysylltiadau â’r cyfryngau a rhagolygon y farchnad i sefydliadau gofal iechyd.

Services: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Ymgynghori, Gwybodaeth am y Farchnad, Polisi Gofal Iechyd

ICON

Sefydliad ymchwil contract yw ICON sy’n darparu gwasanaethau datblygu allanol i’r diwydiannau biotechnoleg, fferylliaeth a dyfeisiau meddygol ledled y byd. Mae’n darparu gwasanaethau arbenigol sy’n rhychwantu cylch bywyd datblygu cynnyrch ar draws ystod o feysydd therapiwtig. Mae gan ICON safle yn Abertawe sy’n darparu gwasanaethau ymchwil clinigol, gan gynnwys gwyliadwriaeth ffarmacolegol.

Services: Gwasanaethau Technegol, Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Technoleg Feddygol, Ymchwil
Specialism: Ymchwil Contract, Ymchwil Glinigol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n adeiladu ac yn dylunio’r systemau digidol a data cenedlaethol sy’n sail i’r gwasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cofnodion iechyd electronig, Ap GIG Cymru a llwyfannau rhagnodi electronig.

Services: Gwasanaethau Technegol, Ymchwil
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd, Iechyd Digidol
Specialism: Digidol, Teleiechyd, Telefeddygaeth, Arloesi, Cofnodion Iechyd Electronig

Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Cefnogir Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn datblygu a choladu ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd gwledig, ac i wella hyfforddiant a recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymunedau gwledig.

Services: Ymchwil, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Y GIG
Sector: Y GIG, Gofal iechyd
Specialism: Iechyd Gwledig, Anghydraddoldebau Iechyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd.  

Services: Gwasanaethau Technegol, Ymchwil, Data
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Clefydau heintus, iechyd cyhoeddus, cadw gwyliadwriaeth ar iechyd

Ig Innovations

Mae Ig Innovations yn is-gwmni i Abbott Toxicology, sydd ei hun yn is-gwmni i Abbott, cwmni dyfeisiau meddygol a gofal iechyd rhyngwladol. Mae Ig Innovation yn cynhyrchu gwrthgyrff polyclonal ar gyfer y sectorau ymchwil, diagnostig, biotechnoleg a fferyllol.

Services: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Ymchwil, Biotechnoleg, Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Gwrthgyrff

Imersifi

Mae Imersifi yn gwmni rhithwir sy'n creu cymwysiadau realiti rhithwir o'r radd flaenaf sy'n caniatáu efelychu amgylcheddau neu sefyllfaoedd diffiniedig. Mae Imersifi wedi datblygu rhaglenni y gellir eu defnyddio i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn triniaethau fel broncosgopi neu traceostomi.

Services: Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Iechyd Digidol, Realiti Rhithwir

ImmunoServ

Mae ImmunoServ yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sy'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ym maes imiwnoleg. Mae’r cwmni’n datblygu profion imiwnolegol, gan gynnwys profion celloedd T ar gyfer COVID-19. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan y cwmni’n cynnwys gwasanaethau labordy i gefnogi datblygiad profion imiwnedd newydd.

Services: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Ymchwil
Specialism: Imiwnoleg, Profion Labordy