Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)
Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.