Cotton Mouton Diagnostics
Mae Cotton Mouton Diagnostics yn gwmni profi endotocsinau sy’n cynnig gwasanaeth profi endotocsinau ar gyfer cynhyrchion fferyllol, yn ogystal ag offeryn y gellir ei brynu i gwmnïau ei ddefnyddio’n fewnol.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Cotton Mouton Diagnostics yn gwmni profi endotocsinau sy’n cynnig gwasanaeth profi endotocsinau ar gyfer cynhyrchion fferyllol, yn ogystal ag offeryn y gellir ei brynu i gwmnïau ei ddefnyddio’n fewnol.
Mae CPR Global Tech yn gwmni digidol sydd wedi datblygu’r CPR Guardian, oriawr glyfar y gellir ei gwisgo sy’n gallu canfod a yw defnyddiwr wedi cwympo ac sy’n anfon SOS at ofalwyr neu aelodau o’r teulu.
Mae Creo Medical yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu cynnyrch ar gyfer triniaethau endosgopi therapiwtig mewn clefydau gastroenteroleg. Mae cynhyrchion yn cynnwys ategolion endotherapi a llwyfannau uwch ar gyfer triniaethau endosgopig cymhleth.
Mae Crispr Biotech Engineering (CBE) yn ddatblygwr cyrsiau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar botensial CRISPR-Cas9 i drin clefydau.
Mae Crohn's and Colitis UK yn darparu cymorth a gwybodaeth i gleifion a'u teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan Glefydau Llid y Coluddyn (IBD), codi ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o IBD, ymdrechu i wella gwasanaethau gofal iechyd a'r ddarpariaeth IBD, dylanwadu ar agweddau cymdeithas i sicrhau newid positif i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan IBD, a hyrwyddo ymchwil i bob agwedd ar IBD a sut maen nhw'n effeithio ar fywydau pobl.
Mae Cupid Peptide Company yn gwmni biotechnoleg o Gaerdydd sy’n cynhyrchu peptidau cadwyn hir sy’n treiddio celloedd, ac mae modd eu harchebu at ddiben gwaith ymchwil biofeddygol.
Mae Curapel yn datblygu cynnyrch dermatolegol i drin psoriasis ac ecsema ar y croen, yn ogystal ag amryw o ddefnyddiau cosmetig. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd a hufenau.
Mae Cutest Systems yn Sefydliad Ymchwil Glinigol dermatolegol. Mae Cutest yn arbenigo mewn cynhyrchu profion dermatolegol diogel ac effeithiol sydd wedi’u teilwra ar gyfer gofal clwyfau a dyfeisiau meddygol, gyda galluedd o ran dylunio protocolau a chynnal treialon clinigol. Mae Cutest hefyd yn cynnig profion goddefiad, profion perfformiad deunyddiau gofal clwyfau a gwasanaethau profi cynhyrchion fferyllol argroenol.
Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.
Mae Cronfeydd Economi Gylchol, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i sefydliadau sy’n awyddus i gynyddu’r defnydd o gynnwys sydd wedi’i ailgylchu a’i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau, neu i ymestyn oes cynnyrch/deunyddiau. Mae’r cymorth hwn ar gael i fusnesau, sefydliadau ymchwil, sefydliadau trydydd sector a byrddau iechyd.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.