Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Curapel

Mae Curapel yn datblygu cynnyrch dermatolegol i drin psoriasis ac ecsema ar y croen, yn ogystal ag amryw o ddefnyddiau cosmetig. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd a hufenau.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Diwydiant (Arall)
Specialism: Dermatoleg

Cutest

Mae Cutest Systems yn Sefydliad Ymchwil Glinigol dermatolegol. Mae Cutest yn arbenigo mewn cynhyrchu profion dermatolegol diogel ac effeithiol sydd wedi’u teilwra ar gyfer gofal clwyfau a dyfeisiau meddygol, gyda galluedd o ran dylunio protocolau a chynnal treialon clinigol. Mae Cutest hefyd yn cynnig profion goddefiad, profion perfformiad deunyddiau gofal clwyfau a gwasanaethau profi cynhyrchion fferyllol argroenol.

Services: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Ymchwil
Specialism: Dermatoleg

Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)

Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.

Services: Rhwydweithio, Digwyddiadau, Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Y GIG, Prifysgol
Sector: Gofal iechyd, Gwyddorau Bywyd
Specialism: Rheoli Rhaglenni Lleol, addysg, sgiliau, datblygu ecosystemau

Cyllid yr Economi Gylchol

Mae Cronfeydd Economi Gylchol, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i sefydliadau sy’n awyddus i gynyddu’r defnydd o gynnwys sydd wedi’i ailgylchu a’i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau, neu i ymestyn oes cynnyrch/deunyddiau. Mae’r cymorth hwn ar gael i fusnesau, sefydliadau ymchwil, sefydliadau trydydd sector a byrddau iechyd.

Services: Ariannu, Cymorth Gweithredu Arloesi
Math: Llywodraeth: Cenedlaethol
Sector: Gwyddorau Bywyd
Specialism: Yr Economi Gylchol, Cyllid

Cymdeithas Gofal Dwys Cymru

Mae Cymdeithas Gofal Dwys Cymru yn gymdeithas o weithwyr proffesiynol ym maes gofal dwys sy’n cynnal cynadleddau blynyddol ac yn cydlynu archwiliadau cenedlaethol a phrosiectau ymchwil.

Services: Rhwydweithio, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Sefydliad Ymchwil
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Gofal Dwys

Cymru Healthcare

Mae Cymru Healthcare yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, nwyddau traul meddygol, offer gofalu am glwyfau a chyfarpar meddygol.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd, Technoleg Feddygol
Specialism: Cyfarpar Diogelu Personol, Gofalu am glwyfau, Cymhorthion i gleifion, Rheoli Heintiau

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn gorff cyhoeddus sy’n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg uwch. Mae CCAUC yn rheoleiddio lefelau ffioedd mewn addysg uwch, yn craffu ar berfformiad prifysgolion Cymru, ac yn darparu cyllid ar gyfer addysgu, ymchwil ac arloesedd.

Services: Ariannu, Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Llywodraeth: Cenedlaethol, Prifysgol
Sector: Academia
Specialism: Cyllid Ymchwil, Rheoleiddio Prifysgolion

Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch

Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch yn gyllidwr arloesedd gan lywodraeth y DU ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch. Ein nod yw canfod ac ariannu arloesedd y gellir manteisio arno er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel. Mae gennym amrywiaeth o gyllid i gyflymu syniadau o unrhyw sector er budd Amddiffyn a Diogelwch. Rydyn ni eisiau syniadau gan amrywiaeth eang o arloeswyr ac mae gennym dîm o bartneriaid arloesi, o bob cwr o’r DU, sydd yma i helpu i arwain y rheini sydd â diddordeb yn y cyllid sydd ar gael.

Services: Ariannu
Math: Llywodraeth: Cenedlaethol
Sector: Biotechnoleg, Diwydiant (Arall), Gwyddorau Bywyd, Technoleg Feddygol, Ymchwil
Specialism: Cyllid Ymchwil a Datblygu, Cyllid Grant, Cyllid, Buddsoddi Ecwiti

Cytiva

Mae Cytiva yn ddarparwr technolegau a gwasanaethau sy’n datblygu ac yn cyflymu’r gwaith o ddatblygu, cynhyrchu a darparu therapiwteg, gan gynnwys biotherapiwteg, therapïau celloedd a genynnau a therapiwteg mRNA. Arferai Cytiva fod yn rhan o GE Healthcare Life Sciences ac mae’n weithredol mewn 40 o wledydd. Mae cyfleuster gweithgynhyrchu Cytiva yng Nghaerdydd yn cynhyrchu technolegau biobrosesu untro a ddefnyddir i wneud brechlynnau a chynhyrchion biofferyllol.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd, Ymchwil
Specialism: Datblygu Cyffuriau, Therapiwteg, Defnyddiau Traul, Biobrosesu

DECIPHer

Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw DECIPHer ac mae’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd fel deiet a maeth; gweithgarwch corfforol; a thybaco, alcohol a chyffuriau, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Services: Ymchwil
Math: Prifysgol, Sefydliad Ymchwil
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Iechyd Meddwl, Lles, Iechyd y Cyhoedd, Gordewdra, Polisi Cyhoeddus