Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC (sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan cefnogi ymchwil a busnes sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau cynorthwyol. Mae'r ganolfan yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd a chyfleusterau arloesol, gan gynnwys labordai UX a chyfleusterau prototeipio.

Services: Seilwaith, Gwasanaethau Technegol, Ymchwil
Math: Prifysgol, Sefydliad Ymchwil
Sector: Academia, Gwasanaethau Cymorth Arloesi, Gwyddorau Bywyd
Specialism: Argraffu 3D, Prototeipio, Ymchwil UX

Canolfan Dechnoleg OpTic

Mae Canolfan Dechnoleg OpTic yn darparu cyfleusterau arloesol ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer egin fusnesau a chwmnïau yn ystod y cyfnod cynnar. Yn benodol, mae’r ganolfan yn hyb ar gyfer technoleg optoelectroneg ac arloesi gwyddonol.

Services: Deori Busnes, Seilwaith
Math: Deori Busnes
Sector: Deorydd Busnes, Ymchwil
Specialism: Systemau Optegol, Peirianneg, Technoleg Feddygol

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR)

Mae'r NCPHWR yn ganolfan a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gartref i ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o brifysgolion Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau iechyd y boblogaeth.

Services: Ymchwil
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Academia, Ymchwil
Specialism: Iechyd y Boblogaeth, Lles, Gofal Pediatrig, Iechyd Gwledig, Heneiddio’n Iach

Canolfan PRIME Cymru

Canolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.

Services: Ymchwil
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Ymchwil, Gofal iechyd
Specialism: Gofal Sylfaenol, Gofal Brys

Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)

Mae SBRI yn ariannu gwaith ymchwil a datblygu i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ym maes gofal iechyd drwy gynnal heriau penodol a chystadlaethau agored. Ariennir SBRI gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae SBRI yn dod â heriau’r llywodraeth a syniadau byd busnes at ei gilydd i greu datrysiadau arloesol.

Services: Ariannu
Math: Llywodraeth: Cenedlaethol, Y GIG
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Busnesau Bach, Cronfeydd Her

Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTC)

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn sefydliad GIG sy’n cefnogi Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i sicrhau bod mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru yn deg, yn amserol ac yn gwella’n barhaus i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn briodol.

Services: Gwasanaethau Technegol
Math: Y GIG
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Specialism: Tocsicoleg, optimeiddio meddyginiaethau, asesu meddyginiaethau, ymchwil labordy, hyfforddiant

Canolfan Ymchwil Canser Cymru

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe'i hariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r ganolfan yn cefnogi ymchwil drwy ddatblygu’r strategaeth ymchwil canser ar gyfer Cymru.

Services: Ymchwil
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Gofal iechyd, Ymchwil
Specialism: Oncoleg, Canser, Ymchwil

Canolfan Ymchwil Technoleg Iechyd Cedar

Mae Cedar (sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) yn canolbwyntio ar werthuso dyfeisiau meddygol a diagnosteg. Mae’n gweithio gyda’r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.

Services: Ymchwil, Cymorth Gweithredu Arloesi
Math: Y GIG
Sector: Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Ymchwil, Diagnosteg, Economeg Iechyd, dyfeisiau meddygol

CanSense

Mae CanSense yn gwmni deillio o Brifysgol Abertawe sy'n datblygu prawf gwaed ar gyfer diagnosis anymwthiol o ganser y coluddyn gan ddefnyddio modelu sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Diagnosteg, Oncoleg, Canser

Cantre Mobility

Mae Cantre Mobility yn cyflenwi offer symudedd a chymhorthion eraill i gleifion, gan gynnwys cadeiriau olwyn a gwelyau.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Cymhorthion i Gleifion