BIC Innovation
Mae BIC Innovation yn ymgynghoriaeth strategaeth arloesi sy’n gweithio yn y sector gwyddorau bywyd, bwyd a diod a’r sector cyhoeddus.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2025
Mae BIC Innovation yn ymgynghoriaeth strategaeth arloesi sy’n gweithio yn y sector gwyddorau bywyd, bwyd a diod a’r sector cyhoeddus.
Mae Biocatalysts yn sefydliad datblygu a gweithgynhyrchu contractau sy’n arbenigo mewn darganfod, datblygu a chynhyrchu ensymau ar gyfer y diwydiannau bwyd, gwyddorau bywyd, fferyllol a biotechnoleg. Mae’r cwmni hefyd yn cyflenwi amrywiaeth o gynnyrch ensymau a ddatblygwyd yn flaenorol.
Ffurfiwyd Biodexa Pharmaceuticals yn sgîl uno Midatech Pharma o Gaerdydd, a Bioasis o’r Unol Daleithiau yn 2022. Roedd Midatech yn arbenigo mewn datblygu technolegau ar gyfer darparu cyffuriau’n well, tra bod Bioasis yn datblygu cyffuriau i drin anhwylderau’r system nerfol ganolog. Mae Biodexa wedi cyfuno'r technolegau hyn i ddatblygu piblinell o gynhyrchion sydd wedi'u hanelu at ganserau sylfaenol a metastatig yr ymennydd. Mae prif gynnyrch y cwmni’n cael ei asesu mewn treialon clinigol ar hyn o bryd.
Mae BioExtractions Wales yn darparu gwasanaeth contract o gynhyrchion unigol ac ar wahân fel peptidau a moleciwlau synthetig mawr o gymysgeddau cymhleth. Cynigir y gwasanaethau hyn i’r diwydiannau fferyllol, agrocemegol, cemegol a bwyd.
Mae Biofanc Canser Cymru yn brosiect sy'n ceisio casglu samplau o waed a meinwe gan gleifion ledled Cymru sy'n cael llawdriniaeth lle mae canser yn ddiagnosis posibl. Yna gall ymchwilwyr gael mynediad at y samplau hyn ar gyfer ymchwil canser, a gall Banc Canser Cymru hefyd ddarparu gwasanaethau technegol fel creu microaraeau meinwe neu gasglu delweddau microsgop o gelloedd.
Mae Biofortuna yn ddarparwr gwasanaeth i ddatblygwyr diagnosteg moleciwlaidd a phrofion imiwnedd, gan gynnwys datblygu contractau a gwasanaethau gweithgynhyrchu. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau genomig fel echdynnu DNA ar gyfer sefydliadau ymchwil fferyllol a chlinigol, dilysu llinellau celloedd ar gyfer ymchwilwyr academaidd, a phrofi cysylltiadau DNA ar gyfer achosion cyfreithiol, mewnfudo a fforensig.
Mae Biometrics yn gwmni dyfeisiau meddygol sy'n dylunio ac yn gweithgynhyrchu synwyryddion, offerynnau a meddalwedd at ddibenion ymchwil biomecanig ac adsefydlu clinigol. Mae’r rhain yn cynnwys offer ymarfer gyda synwyryddion wedi’u hymgorffori i fonitro cryfder a meddalwedd pwrpasol i ddadansoddi canlyniadau a gesglir gan yr offerynnau hyn.
Mae BioMonde yn gwmni fferyllol a gofal clwyfau rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu cynnyrch therapi digramennu gyda larfa (a elwir hefyd yn therapi cynrhon) i'w defnyddio mewn clwyfau cronig a chlwyfau sy’n anodd eu gwella. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu ei gynnyrch ledled y DU ac Ewrop o’i gyfleusterau cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y DU a Hambwrg, yr Almaen.
Biopharm Leeches sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r gelod a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern ledled y byd. Mae'r gelod yn cael eu defnyddio mewn llawfeddygaeth blastig ac adluniol ledled y byd, yn ogystal â mewn ymchwil barhaus i leddfu symptomau osteoarthritis.
Mae BioPhys yn ymgynghoriaeth sy’n helpu cwmnïau dyfeisiau meddygol i ddylunio, datblygu a masnacheiddio eu cynnyrch drwy ddarparu cyngor technegol, gwyddonol a masnachol.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.