Mae Blake Morgan yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol sydd ag ymrwymiad tymor hir i Gymru. Rydyn ni’n gwasanaethu entrepreneuriaid, arloeswyr, mudiadau nid-er-elw, corfforaethau, y GIG, llywodraeth ddatganoledig, llywodraeth leol a rheoleiddwyr. Mae ein tîm o gyfreithwyr gwyddorau bywyd ac iechyd yn gweithio gyda busnesau newydd, busnesau canolig a busnesau mawr gan eu helpu i fynd i’r afael â materion cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n codi o therapïau newydd, cynnyrch meddyginiaethol, biotechnoleg, technoleg iechyd, dyfeisiau, ymchwil treialon clinigol a chynnyrch fferyllol gan gynnwys brechlynnau. Rydyn ni’n cefnogi cleientiaid i gyflwyno eu cynnyrch i’r farchnad, yn amddiffyn eu harloesedd, yn cynnal ac yn tyfu eu busnes, ac yn cynghori ar gydweithrediadau cymhleth yn ogystal ag ymgyfreitha a gorfodi rheoleiddiol.