Ultrawave
Mae Ultrawave yn wneuthurwr dyfeisiau glanhau uwchsonig, y gellir eu defnyddio i lanhau offer meddygol fel offer gosod caniwla mewn theatrau llawdriniaethau neu offer deintyddol.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2026
Mae Ultrawave yn wneuthurwr dyfeisiau glanhau uwchsonig, y gellir eu defnyddio i lanhau offer meddygol fel offer gosod caniwla mewn theatrau llawdriniaethau neu offer deintyddol.
WCISU yw'r Gofrestrfa Canser Genedlaethol ar gyfer Cymru, sy'n cofnodi, storio ac adrodd ar bob achos o ganser yng Nghymru. Mae'r uned hefyd yn cynnal ei hymchwil ei hun ac yn cydweithio â phrifysgolion Cymru, a gyda nifer o astudiaethau rhyngwladol mawr.
Mae UPG yn ddarparwr arloesol, byd-eang o atebion datblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch. Mae gennym hanes o lwyddo o ran cyflenwi cwmnïau gofal iechyd o’r radd flaenaf, o gydrannau plastig wedi’u mowldio â chwistrell o'n hystafell lân Dosbarth 7 ISO, hyd at weithgynhyrchu dan gontract gwasanaeth llawn. Mae arbenigedd, systemau a phrosesau byd-eang UPG wedi'u teilwra i fodloni gofynion llym cynhyrchion gofal iechyd heddiw.
Mae V-TRAK yn gwmni offer meddygol a nwyddau traul sy’n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu cadeiriau olwyn a seddi.
Mae Venalink yn ddarparwr System Dogni wedi’i Monitro (MDS) i fferyllfeydd cymunedol. Mae Venalink wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy.
Mae Vernacare yn cyflenwi cynhyrchion ar gyfer atal heintiau, rheoli gwastraff clinigol a gweithdrefnau llawfeddygol. Mae’r cynhyrchion hyn yn amrywio o weips sych a gwlyb untro, peiriannau malu ysbytai, biniau gwastraff clinigol, offer llawfeddygol untro, a dyfeisiau gofalu am glwyfau. Mae gan y cwmni safle gweithgynhyrchu yn ne Cymru, ar ôl iddynt gaffael busnes atal heintiau Frontier Medical Group yn 2020.
Mae Versus Arthritis yn cyllido ymchwil
wyddonol a meddygol i bob math o arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'n gweithio i dynnu'r boen oddi wrth ddioddefwyr gyda phob math o arthritis a helpu pobl i aros yn egnïol. Cyflawnir hyn drwy ariannu ymchwil o ansawdd uchel, darparu gwasanaethau, gwybodaeth ac ymgyrchu. Gweledigaeth yr elusen yw dyfodol sy'n rhydd o arthritis.
Mae Vibrant Medical wedi datblygu Vibro-Pulse, dyfais feddygol sydd wedi’i dylunio i drin ac ysgogi’r broses o wella ystod o glwyfau cronig drwy weithred ddirgrynu amledd isel. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Ninbych.
Mae Vicentra wedi datblygu Kaleido, pwmp inswlin y gellir ei ailddefnyddio y gellir ei reoli a’i fonitro gan declyn llaw. Gall y ddyfais hefyd gysylltu â Monitor Glwcos Parhaus i ddarparu bolws cywiro. Mae pencadlys y cwmni yn yr Iseldiroedd, ac mae ganddo swyddfa gofrestredig yn y DU yn Abertawe.
Mae Virtus Tech wedi datblygu llwyfan VR sy'n caniatáu i ddefnyddwyr annhechnegol greu efelychiadau personol. Mae’r llwyfan hwn wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu senarios hyfforddiant gofal iechyd yn y GIG, yn ogystal â chael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau academaidd eraill.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.