Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

R3 Digital

Ymgynghoriaeth trawsnewid digidol yn y DU yw R3 Digital, sy'n helpu sefydliadau i gyflymu newid drwy strategaeth, dylunio cynnyrch, data a pheirianneg. Ym maes Iechyd a Gwyddorau Bywyd, mae R3 yn gweithio mewn partneriaeth ag ymddiriedolaethau'r GIG, rheoleiddwyr ac arloeswyr er mwyn gwella'r modd y mae gofal yn cael ei ddarparu, gwneud y gorau o weithrediadau a datgloi gwerth o ddata. Mae eu gwaith yn cwmpasu strategaeth ddigidol, dylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf, systemau rhyngweithredol, a dadansoddeg er mwyn sbarduno canlyniadau posibl, fel llif gwaith clinigol gwell, gwell profiadau i gleifion, a gwella perfformiad mesuradwy. Mae timau trawsddisgyblaethol R3 yn pontio dealltwriaeth glinigol â thechnoleg ac arweinyddiaeth newid er mwyn bod yn gynaliadwy ac yn effeithiol.  

Gwasanaethau: Ymgynghori, Cymorth Gweithredu Arloesi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Gofal iechyd, Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Arbenigedd: Ymgynghori, Trawsnewid Digidol, Defnyddio Salesforce, Datblygu Cynnyrch

Reacta Healthcare

Mae Reacta Healthcare yn gweithgynhyrchu prydau bwyd i'w defnyddio mewn treialon clinigol (prydau a ddefnyddir i wneud diagnosis a monitro alergedd bwyd) drwy ddatblygu a chynhyrchu alergenau.

Gwasanaethau: Gweithgynhyrchu, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd
Arbenigedd: Alergenau bwyd, Gweithgynhyrchu

Recliners

Mae Recliners yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhentre, Morgannwg Ganol, sy’n dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a chyflenwi dodrefn trydanol a dodrefn i chi symud eich hun, gan gynnwys cynhyrchion eistedd.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Dodrefn Meddygol

RED Medtech

Mae RED MedTech yn ymgynghoriaeth datblygu cynnyrch a chydymffurfio sy’n arbenigo mewn dyfeisiau meddygol. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys cyngor dylunio a rheoleiddio a chymorth gyda ffeilio technegol.

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Rheoleiddio, Cydymffurfio

RedKnight Consultancy

Mae RedKnight yn gwmni ymgynghorol sy’n cynnig grantiau sy’n cynnig gwasanaethau fel ysgrifennu cynigion a rheoli hawliadau grant. Mae’r cwmni’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd a gwyddorau bywyd.

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gwyddorau Bywyd, Gofal iechyd
Arbenigedd: Cyllid grant, Ysgrifennu cynigion

ReNeuron

Mae ReNeuron wedi datblygu llwyfan technoleg exosome sy’n cynnig mecanwaith cyflawni ar gyfer amrywiaeth o lwythi posibl a allai gynnwys siRNA, mRNA, proteinau, moleciwlau bach a genynnau i fath penodol o gell mewn meinwe benodol. Mae’r cwmni nawr yn chwilio am bartneriaethau gyda chwmnïau sy’n datblygu ymgeiswyr addawol am gyffuriau a allai elwa o ddefnyddio’r llwyfan hwn.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Cyflenwi cyffuriau, therapïau uwch

Renishaw

Mae Renishaw yn gwmni peirianneg sy’n dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata cynnyrch mesur, rheoli symudiadau, sbectrosgopeg a pheiriannu manwl. Mae gan y cwmni adran niwrolawdriniaeth, sy'n datblygu robotiaid llawfeddygol a systemau cyflenwi cyffuriau wedi'u targedu ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae’r adran hon wedi’i lleoli ym Meisgyn.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Peirianneg, Llawfeddygol, Niwrowyddoniaeth, Cyflenwi Cyffuriau

Rescape Innovation

Mae Rescape Innovation yn gwmni iechyd digidol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio realiti rhithwir wrth drin cleifion a helpu staff rheng flaen y GIG. Mae Rescape yn datblygu datrysiadau therapi gwrthdynnu realiti rhithwir, sy'n cefnogi lleddfu poen a gorbryder i gleifion pediatrig ac oedolion, yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd. Mae Rescape hefyd yn darparu datrysiadau hyfforddi realiti rhithwir ar gyfer senarios a gweithdrefnau hyfforddi mewn lleoliadau gofal iechyd.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Hyfforddiant
Arbenigedd: VR, Therapi gwrthdynnu, Hyfforddiant Gofal Iechyd

Rescue & Medical

Mae Rescue & Medical yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n arbenigo mewn cyflenwadau meddygol brys, gan gynnwys pecynnau ocsigen, pecynnau ymatebwyr cyntaf, pecynnau a chludwelyau. Mae Rescue & Medical yn cyflenwi cynhyrchion meddygol i gwsmeriaid, gan gynnwys timau gofal critigol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Meddygaeth frys

Reval CC

Mae Reval yn wneuthurwr cynhyrchion hylendid, adsefydlu a lles ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cynnyrch Reval yn cynnwys systemau ymolchi a chawodydd gyda chymorth, pyllau adsefydlu mewn dŵr, ac offer trosglwyddo ar gyfer ysbytai, cartrefi nyrsio ac unigolion preifat.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Cymhorthion Cleifion