Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Pelican Healthcare

Mae Pelican Healthcare yn wneuthurwr cynnyrch meddygol tafladwy blaenllaw ar gyfer gofal stoma, gan gynnwys cydau.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Llawfeddygol, Cynhyrchion Tafladwy

Pharma Footpath

Mae Pharma Footpath yn darparu data ar gyfer cyfanwerthwyr fferyllol ledled Gogledd America ac Ewrop, gan fynd i’r afael â phrinder yn y DU a marchnadoedd eraill, yn ogystal â masnach ryngwladol arall gan gynnwys Cyflenwi Treialon Clinigol, Mewnforio Paralel, Meddyginiaethau heb eu trwyddedu, ac eraill. Defnyddir data hefyd i gefnogi cynlluniau datblygu busnes ar gyfer cwmnïau fferyllol sydd â phortffolio caniatâd i farchnata.

Gwasanaethau: Data
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Darparu data ar gyfer cwmnïau sy’n ymwneud â masnachu cynnyrch fferyllol yn rhyngwladol

Pharma Footpath

Mae Pharma Footpath yn darparu data ar gyfer cyfanwerthwyr fferyllol ledled Gogledd America ac Ewrop, gan fynd i’r afael â phrinder yn y DU a marchnadoedd eraill, yn ogystal â masnach ryngwladol arall gan gynnwys Cyflenwi Treialon Clinigol, Mewnforio Paralel, Meddyginiaethau heb eu trwyddedu, ac eraill. Defnyddir data hefyd i gefnogi cynlluniau datblygu busnes ar gyfer cwmnïau fferyllol sydd â phortffolio caniatâd i farchnata.

Gwasanaethau: Data
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol, Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Darparu data ar gyfer cwmnïau sy’n ymwneud â masnachu cynnyrch fferyllol yn rhyngwladol

PharmacyX

Mae PharmacyX yn ddarparwr meddalwedd ar gyfer fferyllfeydd, sy’n galluogi fferyllwyr i ddigideiddio eu llif gwaith a’u cleifion i archebu presgripsiynau rheolaidd ar-lein.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Meddalwedd, Fferyllfeydd Cymunedol, Presgripsiynau.

PharmaPack

Mae PharmaPack yn gwmni pecynnu fferyllol sydd wedi’i leoli yng Nghonwy. Mae PharmaPack wedi’i gymeradwyo gan MHRA ac mae’n cynnig gwasanaethau i gwmnïau fferyllol, cosmetig a maeth, gan gynnwys llenwi hylif, hufen, sachet a photeli, labelu, bargodio, tynlapio, warysau a storio, a dylunio pecynnau.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Diwydiant (Arall)
Arbenigedd: Pecynnu

Pharmaron

Mae Pharmaron yn ddarparwr gwasanaethau ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd. Mae Pharmaron yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu, gan gynnwys ym maes darganfod cyffuriau, datblygiadau cyn-glinigol a chlinigol mewn nifer o ddulliau therapiwtig. Mae gan Pharmaron gyfleuster radiolabelu yng Nghaerdydd sy’n paratoi ac yn rhyddhau cyfansoddion profi wedi’u radiolabelu i’w defnyddio mewn astudiaethau anghlinigol, datblygu cyffuriau clinigol ac astudiaethau tynged amgylcheddol.

Gwasanaethau: Gweithgynhyrchu, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Darganfod Cyffuriau, Datblygu Cyffuriau, Cemeg

Pharmatec Solutions

Mae Pharmatec Solutions yn gwmni ymgynghorol sy’n gweithio gyda sefydliadau gweithgynhyrchu a datblygu contractau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnyrch anadlol newydd, fel anadlyddion dosau mesuredig dan bwysau.

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Cynhyrchion Anadlol, Meddyginiaethau a Anadlir

PhytoQuest

Cwmni biofferyllol sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, ac sy’n arbenigo mewn ymchwilio i iminosiwgrau planhigion, yw PhytoQuest. Mae’n bosibl y bydd iminosiwgrau yn cael eu defnyddio mewn bwyd, cynhyrchion fferyllol a cholur. Mae PhytoQuest hefyd yn cynnig gwasanaethau i ddiwydiant ac i'r byd academaidd, gan gynnwys dadansoddi cyseiniant magnetig niwclear.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Technegol, Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Ymchwil, Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Gwyddoniaeth Planhigion, Ymchwil Contract

Phytovation

Mae Phytovation yn gyflenwr Cynhwysion Fferyllol Actif, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yng ngogledd-orllewin Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu senna safonol i’w ddefnyddio fel carthydd.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Gwyddoniaeth Planhigion, Ymchwil Labordy

PNR Pharma

Mae PNR Pharma yn arbenigwyr mewn gwasanaethau Person Cymwys, ymgynghoriaeth, treialon clinigol, pecynnu a labelu eilaidd, storio dan reolaeth ac ardystiad swp fferyllol yr UE/DU ar gyfer treialon clinigol a chynhyrchion wedi’u marchnata – gan gefnogi cynhyrchion fferyllol drwy gydol eu cylch bywyd, o Gam I hyd at fasnacheiddio a thu hwnt.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Treial Clinigol, storio a dosbarthu rheoledig, labelu pecynnau, Gwasanaethau Person Cymwys, Ymgynghoriaeth, Tystysgrif UE-DU