Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Ross Care

Mae Ross Care yn wneuthurwr cyfarpar symudedd, fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd. Mae pencadlys y cwmni yng Nglannau Mersi ac mae ganddo swyddfa yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Cymhorthion Cleifion, Offer Symudedd

RSR

Mae RSR yn ddatblygwr a chynhyrchydd diagnosteg feddygol blaenllaw gyda phwyslais penodol ar glefyd thyroid awtoimiwn, diabetes mellitus math 1, niwroimiwnoleg ac awtoimiwnedd uwcharennol. Mae cynhyrchion RSR yn cynnwys dyfeisiau diagnostig in vitro, adweithyddion a phecynnau i ganfod a mesur hunanwrthgyrff amrywiol at ddiben diagnosis a rheoli clefydau.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Specialism: Diagnosteg

RWG Mobile

Mae RWG Mobile yn rhwydwaith symudol a sefydlwyd i wasanaethu Cymru. Gan adeiladu ar y rhwydwaith hwn, lansiodd RWG iCare, rhaglen sy’n cysylltu dyfeisiau fel monitorau pwysedd gwaed a thermomedrau digidol ac sy’n caniatáu i ofalwyr fonitro cleifion yn eu cartrefi o bell.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol
Specialism: Iechyd Digidol, Telathrebu

SABRE Cymru

Mae SABRE Cymru yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar ymchwil sy'n gysylltiedig ag achosion o glefydau heintus.

Services: Ymchwil, Rhwydweithio
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Academia, Gofal iechyd
Specialism: Clefydau Heintus, Covid-19

sbarc|spark

Mae Sbarc yn barc ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n cynnwys unedau masnachol, swyddfeydd a mannau cydweithio, labordai, mannau profi a mannau arddangos. Yn Sbarc, mae Arloesedd Caerdydd yn cynnig cymorth i gwmnïau deillio ac egin fusnesau.

Services: Seilwaith, Rhwydweithio, Deori Busnes
Math: Deori Busnes
Sector: Deorydd Busnes, Gwasanaethau Cymorth Arloesi
Specialism: Gwyddorau cymdeithasol, egin fusnesau, gofod swyddfa, gofod labordy

Science and Engineering Applications

Mae Science and Engineering Applications (SCIENAP) yn datblygu technoleg ddigidol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gofal iechyd. Mae SCIENAP wedi datblygu CHAI, platfform i weithwyr gofal iechyd gasglu a phrosesu data cleifion, y gellir ei ddefnyddio i greu cynlluniau gofal a nodiadau trosglwyddo clinigol. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu Care and Respond, pasbort iechyd digidol ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau prin neu gymhleth.

Services: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Specialism: Datblygu Meddalwedd, Meddalwedd Gofal Iechyd

Seastorm

Mae Seastorm yn gwmni meddalwedd sydd wedi datblygu Trialflare, datrysiad electronig ar gyfer casglu data o dreialon clinigol, gan gynnwys cydsyniad electronig a chanlyniadau a adroddir gan gleifion.

Services: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Iechyd Digidol, Gofal iechyd
Specialism: Treialon Clinigol, Meddalwedd

Sefydliad Awen

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr, pobl hŷn a’r diwydiannau creadigol ynghyd i gydgynhyrchu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer heneiddio’n iach.

Services: Ymchwil
Math: Prifysgol, Sefydliad Ymchwil
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Heneiddio’n Iach

Sefydliad Calon y Ddraig

Mae Sefydliad Calon y Ddraig yn rhwydwaith o arloeswyr gofal iechyd sy’n cyfeirio sefydliadau at staff yn y sector iechyd a gofal yng Nghymru, yn helpu i gydgynhyrchu datrysiadau ac yn darparu cyfleoedd dysgu.

Services: Rhwydweithio, Hyfforddiant ac Addysg
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd, Gwasanaethau Cymorth Arloesi, Gofal Cymdeithasol
Specialism: Hyfforddiant, Rhwydweithio, Mabwysiadu, cydraddoldeb iechyd

Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI)

Mae’r WIDI yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS - Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach). Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu mentrau sy'n gysylltiedig â rheoli data iechyd, ar yr un pryd â chaniatáu i NWIS gyfrannu at ddylunio rhaglenni academaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan roi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gael mynediad at leoliadau gwaith ac interniaethau.

Services: Hyfforddiant ac Addysg, Ymchwil
Math: Y GIG, Prifysgol
Sector: Gofal iechyd, Iechyd Digidol
Specialism: TG Iechyd, Deallusrwydd Artiffisial, Data Mawr, Gofal Iechyd Clyfar, TG