Momentum Biosciences
Mae Momentum Biosciences wedi datblygu SepsiSTAT, system prosesu samplau gwaed a chanfod organebau sy'n hwyluso diagnosis cyflym o heintiau llif gwaed.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd, a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2025
Mae Momentum Biosciences wedi datblygu SepsiSTAT, system prosesu samplau gwaed a chanfod organebau sy'n hwyluso diagnosis cyflym o heintiau llif gwaed.
Mae’r Moondance Cancer Initiative yn canfod, yn ariannu ac yn ysgogi pobl arbennig a syniadau dewr i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang ym maes goroesi canser. Ei nod yw cyflymu gwelliant sylweddol a pharhaus mewn canlyniadau goroesi canser dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Maent yn sefydliad nid-er-elw sy’n ariannu gwaith arloesi a gweithredu byw mewn lleoliadau clinigol a all gael effaith ar unwaith ar ganlyniadau goroesi canser i gleifion yng Nghymru.
Mae Morvus Technology Limited yn gwmni fferyllol preifat sy’n arbenigo mewn gwella cyffuriau presennol sydd heb batent neu sydd wedi cael eu hepgor yn flaenorol. Mae gan y cwmni dair llinell cynnyrch, y mae dau ohonynt wedi'u trwyddedu i gwmnïau eraill, gyda'r llall yn cael ei ddatblygu gan Gordian Pharma, cerbyd a sefydlwyd gan Morvus i ddatblygu MTL-004, cyffur moleciwl bach cytotocsig gyda'r potensial i helpu i reoli canser.
Mae My Mask Fit yn gwmni dyfeisiau meddygol o Abertawe sy’n datblygu mygydau wyneb tryloyw P3 safonol sy’n cael eu creu drwy sganio wyneb cwsmer gyda chymhwysiad symudol.
Mae Nanopharm yn sefydliad ymchwil contract sy’n darparu astudiaethau cyn-fformiwleiddio, datrysiadau fformiwleiddio a chymorth dadansoddol yn ystod pob cam o ddatblygu cyffuriau a chynhyrchion trwynol a geneuol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghasnewydd.
Mae Neem Biotech yn gwmni darganfod cyffuriau sy'n canolbwyntio ar ganfod moleciwlau bach i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfacterol. Ar ôl darganfod moleciwlau addawol, mae’r cwmni wedi creu tri chwmni deillio i ddatblygu a masnacheiddio’r asedau hyn ymhellach; Mootral, ONYA Therapeutics a Mariposa Therapeutics.
Mae Neogen yn ddarparwr datrysiadau diogelwch bwyd. Yn 2022, unodd y cwmni â 3M Food Safety, a oedd yn berchen ar safle datblygu a gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r safle hon yn gweithgynhyrchu profion hylendid cyflym a chynnyrch sgrinio microbaidd i’w defnyddio gan gynhyrchwyr llaeth, bwyd a diod.
Mae Neurochase yn fusnes newydd yng Nghaerdydd sydd wedi datblygu system cyflenwi cyffuriau ar gyfer darparu therapïau i'r system nerfol ganolog gan ddefnyddio Darpariaeth Darfudiad Gwell, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.
Mae Neuromind Biopharma yn gwmni fferyllol sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu triniaethau iechyd meddwl newydd ar gyfer iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth.
Mae Neurosign yn cyflenwi chwiliedyddion monitro nerfau yn ystod llawdriniaeth, offer ac electrodau ar gyfer cadwraeth ac adnabod nerfau yn ystod llawdriniaethau’r pen a’r gwddf.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.