Hidlyddion
Sector
Sector
Gwasanaeth
Gwasanaeth

Osteo Plus

Mae Osteo Plus yn gwmni dyfeisiau meddygol yn Abertawe. Mae Osteo Plus yn ffocysu ar weithgynhyrchu a chyflenwi modelau meddygol anatomegol i gynorthwyo llawfeddygon ym maes cynllunio cyn llawdriniaethau, yn ogystal â datblygu mewnblaniadau ar gyfer oncoleg orthopedig a llawfeddygaeth filfeddygol orthopedig. Mae Osteo hefyd yn cynhyrchu offer llawfeddygol wedi’u teilwra.

Gwasanaethau: Cyflenwi, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Technoleg Llawfeddygol, Orthopedeg, Argraffu 3D

Parc Geneteg Cymru

Ariennir Parc Geneteg Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac fe’i gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Parc Geneteg yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genetig a genomig ledled Cymru, gan helpu i weithredu Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae'r Parc yn darparu dadansoddiad dilyniannu a biowybodeg pwrpasol i wyddonwyr ymchwil biofeddygol. Mae’n cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genomeg a geneteg ledled Cymru.

Gwasanaethau: Ymchwil, Gwasanaethau Technegol
Math: Sefydliad Ymchwil, Prifysgol
Sector: Gofal iechyd, Ymchwil
Arbenigedd: Geneteg, Microbioleg, Clefydau Prin, Biowybodeg, Dilyniannu Cenhedlaeth Nesaf

Parkinson’s UK

Mae Parkinson's UK yn ysgogi gwell gofal,
triniaethau ac ansawdd bywyd i bobl â Chlefyd Parkinson.

Gwasanaethau: Cymorth Gofal, Ariannu, Codi Ymwybyddiaeth
Math: Elusen
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol, Ymchwil
Arbenigedd: Clefyd Parkinson,
Cyllid Ymchwil

Parlys yr Ymennydd Cymru

Mae Parlys yr Ymennydd Cymru yn darparu therapi arbenigol i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd.

Gwasanaethau: Gofal iechyd
Math: Elusen
Sector: Gofal iechyd, Gofal Cymdeithasol
Arbenigedd: Parlys yr Ymennydd, Gofal Plant,
Therapi Arbenigol, Cymorth i Deuluoedd

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a swyddogaethau cymorth i GIG Cymru, gan gynnwys gwasanaethau archwilio, cyfrifon, cyflogaeth a chyfreithiol.

Gwasanaethau: Gwasanaethau Gweinyddol
Math: Y GIG
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Gweinyddiaeth y GIG

Partneriaeth Genomeg Cymru

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddarparu meddygaeth fanwl yn GIG Cymru drwy dechnolegau genetig a genomig.

Gwasanaethau: Rhwydweithio
Math: Sefydliad Ymchwil
Sector: Gwyddorau Bywyd, Gofal iechyd
Arbenigedd: Genomeg, Meddygaeth Fanwl, Rhwydweithio

PataPata

Mae PataPata yn darparu cynhyrchion gofal croen i fabanod, yn seiliedig ar waith ymchwil gan Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Gofal iechyd
Arbenigedd: Gofal y croen

PB Leiner

Mae PB Leiner yn cyflenwi amrywiaeth o beptidau colagen a gelatin i'r diwydiannau fferyllol, bwyd a gwyddorau bywyd. Mae gan y cwmni uned gynhyrchu yn Nhrefforest.

Gwasanaethau: Cyflenwi
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol, Gwyddorau Bywyd
Arbenigedd: Fformiwleiddio Cyffuriau, Peirianneg Meinweoedd

PCI Pharma Services

Mae PCI Pharma Services yn ddarparwr gwasanaethau fferyllol sy’n cynnig datrysiadau profion clinigol, datblygu cyffuriau, gweithgynhyrchu, cyflenwi a phecynnu. Mae’r cwmni yn gweithredu yn y DU ac yn Japan. Mae gan y cwmni ddau safle yng Nghymru – safle gweithgynhyrchu a datblygu yn Nhredegar sy’n cyflogi tua 440 o bobl, a safle pecynnu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Gwasanaethau: Gweithgynhyrchu, Gwasanaethau Technegol
Math: Preifat
Sector: Cynhyrchion Fferyllol
Arbenigedd: Pecynnu, Gweithgynhyrchu, Cyflenwi Cyffuriau, Datblygu Cyffuriau

PDR Design

Mae PDR yn gyfleuster ymgynghori dylunio ac ymchwil gymhwysol a sefydlwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Y tu allan i ymchwil academaidd PDR, mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ar gyfer dylunio cynhyrchion newydd, gan gynnwys dyfeisiau meddygol

Gwasanaethau: Ymgynghori
Math: Preifat
Sector: Technoleg Feddygol
Arbenigedd: Dylunio Cynnyrch