Just Life Sciences
Mae Just Life Sciences yn ymgynghoriaeth recriwtio arbenigol ym maes gwyddorau bywyd yng Nghaerdydd.
Archwiliwch dirwedd arloesi Cymru yn ddiymdrech gyda'n cyfeiriadur. Darganfyddwch a chysylltwch â sefydliadau ar draws gwyddorau bywyd, iechyd,l a chymorth arloesi.
Mae Cymru yn cynnig ecosystem ddeinamig, sy’n grymuso arloeswyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth neu i ymddangos yn ein cyfeiriadur, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.
Mae Just Life Sciences yn ymgynghoriaeth recriwtio arbenigol ym maes gwyddorau bywyd yng Nghaerdydd.
Mae Kairos Biotech yn gwmni cam cynnar sydd wedi’i leoli yn Llanelwy, Sir Ddinbych, sy’n canolbwyntio ar ddarganfod moleciwlau bach perchnogol sy’n berthnasol i ddiagnosteg ac imiwnotherapi. Mae Kairos Biotech yn datblygu llif o foleciwlau bach ar gyfer imiwnotherapi a diagnosteg y genhedlaeth nesaf, a'i nod yw gwella opsiynau trawsblannu trwy gael gwared ar rwystrau rhag trawsblannu.
Mae Kaydiar yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu ZeroSole, mewnwadn silicôn modiwlaidd sydd wedi’i ddylunio i leihau’r pwysau ar glwyfau traed a briwiau.
Mae Kelyon yn gwmni iechyd digidol yn Napoli, yr Eidal, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd. Mae Keylon yn darparu arbenigedd ac arweiniad ar gyfer meddalwedd dyfeisiau meddygol, gan gynnwys modelu gwyddor data i ddatblygu modelau cefnogi penderfyniadau ac ymgynghoriaeth rheoleiddio.
Mae Kidney Research UK yn ariannu a chyflwyno ymchwil, sy'n achub bywydau, i glefydau'r arennau, gyda'r nod o wella triniaethau i bobl â chlefydau'r arennau a gwella ansawdd eu bywyd a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd yr arennau.
Mae Kinderkey yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn cyflenwi gwelyau arbenigol ar gyfer oedolion a phlant ag anghenion arbennig.
Mae Kingston Medical Equipment and Garments (KMEG) yn fusnes teuluol yn ne Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu dillad meddygol, gan gynnwys sgrybs, gynau meddygol a chotiau labordy.
Mae Kinsetsu wedi datblygu llwyfan Ktrack sy’n caniatáu i sefydliadau weld data sy’n ymwneud â’u gweithrediadau. Mae Ktrack yn cael ei farchnata ar gyfer sawl diwydiant, gan gynnwys ym maes gofal iechyd, lle gellir defnyddio Ktrack i olrhain asedau fel dyfeisiau ac offer.
Mae Labco yn gweithgynhyrchu ffiolau gwydr wedi'u capio â sgriwiau sy'n cael eu defnyddio mewn protocolau profi labordy, gan gynnwys ar gyfer profi samplau o nwyon a hylifau ym maes gofal iechyd.
Mae SMTL yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ac mae’n darparu ystod o wasanaethau profi dyfeisiau meddygol a biolegol i GIG Cymru i helpu gyda chaffael.
Ymwadiad: Byddwch yn ymwybodol fod y Cyfeiriadur Arloesi yn y cam BETA ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich adborth. Nid yw cael eich cynnwys yn y cyfeiriadur yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Nid yw’r rhestrau’n dilysu cynnyrch, gwasanaethau na sefydliadau penodol. Anogir defnyddwyr i gynnal eu prosesau diwydrwydd dyladwy eu hunain.