Mae labordy blaenllaw sydd wedi'i neilltuo'n arbennig ar gyfer arwain profion Covid-19 cenedlaethol wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd, diolch i gydweithio rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un o brif gwmnïau diagnosteg y byd.
Mae mabwysiadu arloesedd yn gyflymach yn bwysicach nag erioed heddiw. Sut y gallwn roi'r offer sydd eu hangen ar Arloeswyr i arwain mabwysiadu ar raddfa yn sgîl Covid-19?
Mae cwmni o Gaerffili wedi newid cynhyrchu yn ei ffatri i greu miliynau o amddiffynwyr y wyneb cynaliadwy a fydd yn cael eu defnyddio'n fyd-eang gan staff rheng flaen yn ogystal â chefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gweithle.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cystadleuaeth newydd ar gyfer datrysiadau digidol i helpu i frwydro yn erbyn Covid-19. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru ac mae arian ar gael ar gyfer rhwng pump ac wyth o brosiectau i dreialu cynnyrch ac atebion yn gyflym.
Mae Ortho Clinical Diagnostics (Ortho), arloeswr byd-eang mewn diagnosteg in vitro, wedi cyhoeddi bod y gwaith o gynhyrchu ei brofion gwrthgyrff Covid-19 wedi hen ddechrau yn ei gyfleuster arloesol ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Dychwelodd Hac Iechyd Cymru ar gyfer digwyddiad ar-lein yr wythnos diwethaf, y tro hwn, canolbwyntiodd y digwyddiad ar yr heriau y mae GIG Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn sgil y coronafeirws.
Mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn addasu ac yn arloesi ar raddfa a chyflymder na welwyd eu tebyg o'r blaen i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19 a helpu i drin y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y firws.
Mae dyfodiad y pandemig Coronafeirws wedi gosod galw digynsail ar ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Mae gweithgynhyrchwr o Gymru sy’n gallu olrhain ei waith yn achub bywydau i ffosydd rhyfel y Crimea wedi dechrau gweithio er mwyn sicrhau bod GIG Cymru yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arno er mwyn brwydro yn erbyn y Coronafeirws.
Mae partneriaid y rhaglen Cyflymu yn monitro cyngor Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r Coronafirws yn agos, ac yn gweithio i leihau yr effaith y mae'r firws yn ei chael ar gyflawni'r rhaglen.
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r ymateb i bandemig Covid-19. Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei lunio i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn eu hymateb i’r pandemig.
Ar ddydd Llun, 20 Ebrill 2020 yn ystod ein cyfarfod tîm ar-lein, cawsom gwestai arbennig yn ymuno gyda ni - Dr Jamie Roberts, seren rygbi rhyngwladol Cymru, a'r Cymrawd arloesi presennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi datblygu porthol ar-lein i alluogi diwydiant i uwchlwytho cynigion o gymorth i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i'w hystyried gan GIG Cymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Heddiw, ddydd Llun 20 Ebrill 2020, cafodd Ysbyty Calon y Ddraig, yr ysbyty dros dro yn Stadiwm y Principality, ei agor gan ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Ar ôl cyflwyno apwyntiadau digidol ar gyfer meddygfeydd ledled Cymru, mae £2.8m pellach wedi’i fuddsoddi i ymestyn y cynllun i feysydd gofal eilaidd a gofal cymunedol drwyddynt draw.
Mae GIG Cymru eisiau clywed gan unrhyw staff sy'n credu eu bod wedi gweld ffordd ddoethach o weithio neu wedi cynnig arferion newydd arloesol yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae distyllfeydd gin o Gymru wedi cynhyrchu a rhoi mwy na 200,000 o boteli o diheintydd dwylo y mae taer angen amdanynt i wasanaethau rheng flaen, gweithwyr hanfodol a darparwyr gofal cymunedol ers dechrau'r pandemig coronafeirws.
Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gofal Wedi'i Alluogi Gan Dechnoleg (TEC) Cymru wedi ymuno i greu gwefan newydd sbon sy'n helpu i gefnogi a chyflymu arloesedd ym maes technoleg iechyd digidol yng Nghymru.
Gall pob meddyg teulu yng Nghymru bellach gael mynediad i system newydd, sy'n caniatáu i bobl gael apwyntiadau ar-lein gyda'u meddyg a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd.
Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau er mwyn helpu busnesau ar draws Cymru.
Cyn hir, gallai cleifion yng Nghymru weld technoleg realiti rhithwir yn dod yn rhan arferol o'u cynlluniau triniaeth meddygol, diolch i waith ymchwil a datblygu arloesol gan gwmni technoleg o Gymru.