Mae Innovate UK wedi agor ei gronfa ‘Catalydd Biofeddygol 2022 Rownd 1: Ymchwil a Datblygu dan arweiniad y Diwydiant’ ar gyfer busnesau micro, bach neu ganolig eu maint sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n awyddus i ddatblygu atebion arloesol i heriau gofal iechyd. Gellir gwneud ceisiadau rhwng 28 Mawrth 2022 a 25 Mai 2022.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Technoleg Massachusetts a’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol, mae’n bleser gennym gefnogi digwyddiad mewn cyfres sy’n dathlu menywod sy’n gweithio ym mhob agwedd o wyddorau bywyd yng Nghymru.
Yr wythnos hon cyhoeddodd CMR Surgical (CMR) – busnes roboteg lawfeddygol rhyngwladol – ei fod wedi ennill contract sylweddol am nifer o flynyddoedd gan GIG Cymru i weithredu System Roboteg Lawfeddygol Versius® mewn Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaethau â Chymorth Robot.
Fel rhan o’r gyfres ddiweddaraf o ffilmiau i arddangos arloesiadau yng Nghymru a allai chwyldroi gofal iechyd, rydym yn datgelu sut y gallai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol elwa o hyfforddiant realiti rhithwir yn y dyfodol.
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi rhaglen genedlaethol yng Nghymru ar gyfer llawfeddygaeth drwy gymorth robot, sy’n galluogi llawfeddygon i wneud triniaethau cymhleth yn fwy manwl a chyda mwy o reolaeth.
Mae ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, wedi ysgrifennu erthygl bwysig yn egluro pam fod sefydliadau’n gwneud Cymru yn geffyl blaen o ran ei darpariaeth arloesi ym maes iechyd, gofal a lles, a sut gall hyn gefnogi ein GIG.
Mae prosiect partneriaeth rhwng Gwylan UK a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, â chefnogaeth Cyflymu, wedi creu offeryn newydd arloesol i helpu plant i reoli eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.
Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ym mis Chwefror a mis Mawrth i gefnogi arloeswyr a chlinigwyr i ddatblygu datrysiadau sy’n cael eu harwain gan heriau ar draws ein GIG a’n systemau gofal iechyd.
Mae prosiect treftadaeth a chadwraeth yn y Rhondda sy’n defnyddio garddio a natur i wella sgiliau cyflogadwyedd a llesiant pobl wedi’i enwi fel Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.
Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda MediWales i gyflwyno’r Gwobrau Arloesi eleni. Daeth y digwyddiad nodedig hwn ag arweinwyr arloesi ar draws y meysydd iechyd, gofal a diwydiant yng Nghymru at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau eithriadol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Roche Diagnostics, Digipharm a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio prosiect arloesol i ddatblygu dull gweithredu contract enghreifftiol seiliedig ar werth arloesol ar yr un pryd â gwella sut caiff cleifion methiant y galon eu diagnosio yng Nghymru.
Mae’r cwmni technoleg byd-eang, Healthy.io, wedi lansio ap arloesol ar gyfer gofal clwyfau yng Nghymru, gan ganiatáu i gleifion gael eu hasesu a’u monitro o gysur eu cartref eu hunain.
Mae enillwyr Her Technoleg Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sefydliad TriTech 2021 bellach wedi cael eu cyhoeddi, cystadleuaeth sydd wedi’i dylunio i ganfod, ariannu a chefnogi syniadau a datblygiadau arloesol newydd sydd â’r pŵer i ddiwallu anghenion cyfnewidiol cleifion Cymru.
Bydd prosiect clinigol newydd, arloesol i archwilio effaith defnyddio technoleg biodrydanol ar gyfer rheoli poen cleifion sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd, yn cael ei lansio y mis Hydref hwn.
Mae’r agenda Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn bwysig iawn i GIG Cymru a byddwn yn dathlu’r arloesedd yma yn ystod Wythnos Gwerth mewn Iechyd, sy’n cael ei chynnal rhwng 8 a 12 Tachwedd 2021.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â MediWales ar gyfer ei 16eg seremoni flynyddol a gynhelir ddydd Iau 2 Rhagfyr 2021.