Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i fonitro'n agos y wybodaeth ddiweddaraf a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Iechyd Cyhoeddus Lloegr ynghylch â COVID-19.
Mae'r cwmni technoleg enfawr, Fujifilm, wedi rhoi golwg gyntaf unigryw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru ar ei ddatblygiad meddygol diweddaraf, cyn lansiad clinigol byd-eang y cynnyrch.
Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chonffederasiwn GIG Cymru i lansio pecyn cymorth newydd i hyrwyddo'r diwydiant fferyllol a GIG Cymru gweithio gyda'n gilydd dros gleifion.
Rydym wedi cymryd cam allweddol tuag at helpu i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig â dementia drwy ddod yn Ffrindiau Dementia a chefnogi gweledigaeth Cymdeithas Alzheimers Cymru o Gymru sy'n ystyriol o ddementia.
Yr wythnos hon, mewn partneriaeth â Business News Wales, rydym yn lansio sianel bwrpasol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiadau diwydiant ar draws technoleg iechyd yng Nghymru.
Dychwelodd Hac Iechyd Cymru am y pedwerydd tro ym mis Ionawr, yn Ynys Môn gogledd Cymru. Mynychwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan bartneriaid digwyddiad M-SParc, gan dros 100 o bobl ar draws diwydiant, academia a'r GIG.
Ymunwch â ni dydd Mercher 25 a dydd Iau 26 Mawrth 2020 wrth i ni ddod â'r arloeswyr iechyd a gofal cymdeithasol, arbenigwyr y diwydiant, a'r byd academaidd at ei gilydd i archwilio sut y bydd cydweithredu yng Nghymru yn arwain at chwyldroadau newydd ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar 24 Medi, croesawodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru arbenigwyr o ar draws y byd academaidd, y trydydd sector, diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ein hail ddigwyddiad HWB SPARC.
Ddydd Gwener 4 Hydref, bu cydweithwyr o’r diwydiant o bob cwr o’r DU mewn digwyddiad yng Nghaerdydd gan y Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartner yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru eleni, sy’n cael ei chynnal ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.
Ar 9 Gorffennaf, croesawodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru arbenigwyr o’r byd academaidd, y trydydd sector, y diwydiant, y maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ein digwyddiad HWB SBARC cyntaf.
Wythnos diwethaf fe waneth yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru groesawu'r Association of British HealthTech Industries (ABHI) yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Ar 22 a 23 Mai 2019, bu tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn arddangos yn y Gyngres Iechyd a Gofal Digidol yn y King’s Fund yn Llundain. Mae'r digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol o’r GIG a’r maes gofal cymdeithasol ynghyd i drafod sut gall data a thechnoleg wella iechyd a lles cleifion, ac ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau.
Mae ap newydd sy'n helpu I ferched a dynion gwblhau ymarferion ffisiotherapi hanfodol ar ôl llawdriniaeth ar y frest neu'r gesail yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i'w hadferiaid llwyddiannus.
Yn yr ail podlediad 'Syniadau Iach' gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymur, bu yr Athro Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Llywodraeth Cymru - yn sôn am ei gynlluniau i sicrhau fod arloesedd yn chwarae rhan allweddol yn economi Cymru a darpariaeth gwasanaethau.