Hidlyddion
date
“A’r enillwyr yw...” - Enillwyr Gwobrau Arloesi MediWales 2022

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cydweithio â MediWales i gyflwyno Gwobrau Arloesi MediWales 2022. Gan ddod ag arweinwyr arloesi o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant at ei gilydd, roedd y digwyddiad hwn yn cydnabod ac yn dathlu’r llwyddiannau eithriadol sydd wedi bod ar draws y sector.

M-SParc yn tanio uchelgais i ddod yn Barc Gwyddoniaeth NetZero cyntaf erbyn 2030

Mae M-SParc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn anelu at fod y Parc Gwyddoniaeth Sero Net cyntaf yn y DU erbyn 2030. Ar ôl sefydlu ei ôl troed carbon eisoes dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r map i Sero Net bellach ar waith ac mae M-SParc yn y cyfnod cyflawni. Mae gan y cwmni uchelgeisiau i arwain y ffordd nid yn unig yn rhanbarthol ond yn genedlaethol ar y ffordd i Sero Net.

Cwblhau’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru

Mae’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru gan ddefnyddio robot Versius wedi digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn ganlyniad i weithredu Rhaglen Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg, sydd wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, byrddau iechyd ledled Cymru a’r Moondance Cancer Initiative.

Cydweithio ac arloesi: Conffederasiwn GIG Cymru 2022

Roedd yn bleser gennym fynd i Gynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Conffederasiwn GIG Cymru 2022, lle bu ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, yn rhoi sgwrs am sut mae arloesedd digidol yn trawsnewid gofal clwyfau yng Nghymru.

Cyhoeddi’r enillwyr yng Ngwobrau GIG Cymru 2022

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 20 Hydref. Rhoddwyd naw gwobr i fudiadau ledled Cymru am eu hymdrechion arloesol a fydd, yn y pendraw, yn helpu i drawsnewid canlyniadau iechyd a gofal i bobl yng Nghymru. 

Dewch i ddathlu! Gwobrau Arloesi MediWales 2022

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyd-gyflwyno Gwobrau Arloesi MediWales 2022, sy'n cael ei gynnal ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022 yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd. Mae’r seremoni fawreddog yn ei hail flwyddyn ar bymtheg ac mae wedi ymrwymo i ddathlu arloesi ym maes gofal iechyd.

Rhaglen Traws Sector yn lansio Academi'r Gwyddorau Meddygol

Mae’r Academi Gwyddorau Meddygol (AMS) wedi lansio eu Rhaglen Traws Sector, sydd wedi’i dylunio i hybu arloesedd ym maes iechyd drwy ddod ag arloeswyr ac ymchwilwyr traws sector ynghyd drwy ddigwyddiadau rhwydweithio a chynllun cyllido cydweithredol.

Cynnig cymorth cwmpasu i wella gwasanaethau profion pwynt gofal ym Mhowys

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gwmpasu ei brofion pwynt gofal i helpu gwella gwasanaethau gofal sylfaenol ac mewn Unedau Mân Anafiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaethau yn gynt, ac yn lleihau’r angen am ail ymweliadau ac atgyfeiriadau.