Hidlyddion
date
Ysbrydoli Arloesedd – Chwefror

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb misol o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Arweinwyr y Dyfodol: Rhyddhau Eich Potensial gyda Climb

Ydych chi’n arweinydd angerddol sy’n barod i fynd i’r afael â heriau newydd a chael effaith barhaol? Mae Climb, rhaglen arweinyddiaeth arloesol Sefydliad y Galon y Ddraig, yn ôl ar gyfer ei bedwaredd garfan, ac mae ceisiadau ar agor yn swyddogol.

Trydydd parti
Lansio’r rownd ddiweddaraf o gyllid ar gyfer Rhaglen Canser y GIG

Mae GIG Lloegr ar fin agor rownd newydd o gyllid ar gyfer arloesi ym maes canfod a rhoi diagnosis cynnar o ganser. Mae 'Galwad Agored Arloesedd 3' wedi'i chynllunio fel ei bod yn haws integreiddio datrysiadau arloesol mewn lleoliadau gofal iechyd rheng flaen, ynghyd â mynd i'r afael â bylchau allweddol mewn tystiolaeth gweithredu.

Trydydd parti
Sut mae arloesi digidol yn trawsnewid ein gwasanaeth presgripsiwn

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol cyntaf i ddangos sut mae’n defnyddio arloesedd digidol a chydweithio i wneud y broses o ragnodi, dosbarthu a rheoli mynediad at feddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Ysbrydoli Arloesedd – Uchafbwyntiau 2023

Croeso i grynodeb Ysbrydoli Arloesedd o 2023! Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb misol o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Bydd y rhifyn arbennig hwn o Ysbrydoli Arloesedd yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau 2023.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru