Hidlyddion
date
Sut mae arloesi digidol yn trawsnewid ein gwasanaeth presgripsiwn

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol cyntaf i ddangos sut mae’n defnyddio arloesedd digidol a chydweithio i wneud y broses o ragnodi, dosbarthu a rheoli mynediad at feddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Y cleifion cyntaf yn elwa o wasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru

Dau safle yn y Rhyl ydy’r cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – sydd wedi cael ei greu a’i reoli gan ein sefydliad ni mewn partneriaeth â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP), sydd wedi darparu grantiau i gyflenwyr systemau fferyllol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Dyfarnwyd cyllid i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol

Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF), a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) yng Nghymru, wedi rhoi tri grant pellach i gyflenwyr system fferylliaeth gymunedol ddigidol, sy'n golygu bod pum sefydliad wedi elwa arni hyd yma.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Gyrru Technoleg Ymgolli Ymlaen: Lansio Grŵp Diddordeb Arbennig

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod at ei gilydd, ochr yn ochr ag eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, i fanteisio ar bŵer technoleg ymgolli a gwthio arloesi i’r rheng flaen.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Beth wnaethon ni ddysgu yn y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch?

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, lle archwiliwyd sut gall y GIG helpu i siapio’r broses o gyflwyno'r therapiwteg hyn yng Nghymru. Darllenwch grynodeb o’r sgyrsiau diddorol a gyflwynwyd yn ystod y dydd gan y bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.

Rhanddeiliaid allweddol yn rhannu barn am raglen genedlaethol arloesol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru

A wnaethoch chi fynychu digwyddiad panel ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, a gynhaliwyd yn ConfedExpo y GIG a oedd yn archwilio’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru? Rhag ofn i chi golli’r sesiwn, dyma grynodeb o’r prif bwyntiau trafod a’r wybodaeth allweddol am y rhaglen...

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Ysbrydoli Arloesedd - Rhifyn mis Marwth

Mae mis Mawrth wedi bod yn fis prysur ar gyfer arloesedd yng Nghymru gyda nifer o gyfleoedd ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a allai wella canlyniadau iechyd tymor hir i bobl ledled y wlad.

Y 10 Cylchlythyr Iechyd, Gofal ac Arloesi Gorau yn 2023

Rydyn ni wedi casglu’r cylchlythyrau gorau sydd ar gael eleni er mwyn ei gwneud yn haws i chi gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf yn eich maes, boed hynny ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, technoleg feddygol, ymchwil neu dechnoleg ddigidol.