Hidlyddion
date
Sgyrsiau Cydweithredol: Digwyddiad Iechyd Menywod gydag Academi'r Gwyddorau Meddygol
|

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal digwyddiad cydweithio ar draws sectorau gyda'r Academi'r Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y digwyddiad yn llawn brwdfrydedd wrth i arloeswyr, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd i ymchwilio i fyd arloesi ym maes iechyd, gan ganolbwyntio’n bennaf ar iechyd menywod.

Argraffiadau o Med-Tech World 2023
|

Profodd Uwchgynhadledd Med-Tech World 2023 i fod yn gynulliad anhygoel o 1,500 o fynychwyr, o 50 o wledydd gyda dros 200 o siaradwyr arbenigol. Arweinydd y rhaglen, Delyth James sy’n rhannu rhai argraffiadau a’r hyn a ddysgwyd o Uwchgynhadledd Med-Tech World ym Malta ym mis Hydref.

Dyfodol gofal dementia: Datrysiadau technoleg arloesol ar gyfer gwella lles cleifion
|

Daeth yr Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â CAV Shaping Change, â meddyliau creadigol a datblygiadau arloesol ynghyd i ddangos sut y gallwn ni wella bywydau cleifion dementia. Darllenwch ymlaen i gael crynodeb o rai o’r datblygiadau arloesol gan sefydliadau craff a oedd yn bresennol, gyda phob un wedi’i ddylunio i ddod â chysur, cysylltiad ac annibyniaeth i’r rheini sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr. 

Pedair ffordd y gallwn gefnogi GIG Cymru drwy gynllunio trawsnewidiol 
|

Sut gallwn ni helpu i ddiogelu ein GIG yng Nghymru at y dyfodol? Mae Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru, yn trafod ei bapur cyngor newydd a’r ffordd orau o drefnu’r adnoddau sydd ar gael i gael yr effaith fwyaf bosibl a goresgyn y pwysau niferus y mae’n eu hwynebu. 

GIG
Dechrau nawr: Dyfodol digidol cynhwysol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
|

Wrth i arloesedd digidol fagu momentwm, Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n archwilio realiti allgáu digidol ledled Cymru. Mae’n archwilio beth sydd angen digwydd i wneud yn siŵr y gall pobl yng Nghymru elwa o dechnolegau digidol arloesol, nodi'r heriau unigryw sy’n wynebu gofal cymdeithasol ac archwilio'r prosiectau cyffrous sy'n digwydd i greu cyfleoedd i adeiladu cydraddoldeb digidol o fewn gofal cymdeithasol.

Pam ddylech chi boeni am feddygaeth fanwl?
|

Rydym yn ystyried meddygaeth fanwl yn rhan nad yw’n agored i drafodaeth o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae ganddo’r potensial i newid y ffordd rydyn ni’n rhoi diagnosis, yn trin ac yn atal diagnosis niweidiol sy’n cael effaith enfawr ar gleifion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled Cymru.

Beth wnaethon ni ddysgu yn ConfedExpo y GIG 2023?
|

Unwaith eto, roedd ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad anhygoel eleni! Fe wnaethon ni fwynhau gwneud cysylltiadau â phartneriaid o’r un anian â ni yn fawr iawn a thrwytho ein hunain mewn ystod amrywiol o drafodaethau ysbrydoledig a chraff ar hyrwyddo canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r blog hwn yn bwrw golwg ar y prif uchafbwyntiau a’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiad gwych.

Llawdriniaeth robotig yng nghymru: Gwthio ffiniau a newid bywydau
|

Mae Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn rhan o uchelgais ehangach i wella canlyniadau i gleifion canser ledled Cymru. Mewn blog gwadd, mae James Ansell, Llawfeddyg y Colon a’r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn egluro pam fod y dull deinamig hwn mor gyffrous a sut mae llawdriniaethau â chymorth roboteg yn newid bywydau ac yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl.

GIG
Fideo yn rhan o'r cynnwys
Data Mawr, Effaith Enfawr: Tri Pheth i Gofio o Ddigwyddiad Data Mawr 2023
|

Roedd ein Digwyddiad Data Mawr, a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, Yr Adnodd Data Cenedlaethol a Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru, yn gyfle gwych i glywed tystiolaeth bwerus o integreiddio data yn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, cyngor ymarferol ar ddefnyddio data yn ein gwaith bob dydd, ac ysbrydoliaeth ar sut i feddwl yn wahanol am ddata.

Sut gallwn ni frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru?
|

Mewn blog gwadd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o faterion Gwrthficrobaidd y Byd, mae Julie Harris, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn archwilio effaith ymwrthedd gwrthficrobaidd, sut mae gofal sylfaenol a gofal eilaidd yng Nghymru yn mynd i’r afael â'r mater, a beth y gall arloeswyr ei wneud i ategu gofal iechyd.

GIG
Pan gyfarfu Iwerddon â Chymru: diwrnod ym mywyd ein hecosystem ddigidol
|

Mae hi’n amser cyffrous i fod yn gweithio ar arloesedd digidol yng Nghymru, pan rydyn ni’n ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd. Awyddus i gael gwybod sut beth yw hyn? Mae ein blog diweddaraf yn rhoi mewnbwn ar gyfarfod diweddar a gynhaliwyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng arloeswyr yng Nghymru ac Iwerddon.

Pum neges bwysig o ConfedExpo y GIG
|

Yr wythnos diwethaf teithiodd ein tîm i Lerpwl, gan chwifio’r faner dros Gymru yn nigwyddiad ConfedExpo y GIG eleni. Yma, roedd yn bleser gennyf roi sgwrs yn Stondin Arloesi AHSN, gan gyflwyno persbectif Cymreig ar arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Y llwybr i Sicrhau Arloesedd
|

Mae sefydliadau, ymchwil ac adnoddau a all helpu rhai sy’n cychwyn neu sydd ar ganol eu siwrnai arloesi. Fodd bynnag, gyda chymaint o wybodaeth ar gael, lle mae dechrau? Y llynedd, mi fues i’n gweithio i Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ystod o arweinyddion syniadaeth traws-sector mewn ymdrech i geisio gwneud y broses hon yn haws.

Arloesi: persbectif diwydiant
|

Nid gor-ddweud yw honni bod arloesi yn allweddol yn y diwydiant fferyllol. Mae’r sector yn gwbl ddibynnol arno, drwy’r holl gamau cynnar o ymchwil i drawsnewid prosesau cynhyrchu. Ond mae yna hefyd bwrpas i’r arloesi. Mae’n arloesi sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni i wella iechyd unigolion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Arloesi: pam mai hwn yw ein harfer pwysicaf?
|

Dr. Chris Subbe, Ymgynghorydd Meddyginiaeth Gofal Acíwt, Anadlol a Chritigol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol yn ystyried sut y gallwn gynnwys arloesedd yn llwyddiannus mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

GIG
Beth yw openEHR a pham ei fod yn bwysig?
|

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod yn cynnal gwerthusiad technegol ar openEHR er mwyn profi ei hyfywedd fel storfa ddata clinigol strwythuredig. Bydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno cyn bo hir er mwyn cefnogi prosiectau cenedlaethol megis Cyflymu Canser a chynnig cofnod meddyginiaethau a rennir ar gyfer GIG Cymru.

Banc Data SAIL: ymchwil data iechyd yn ystod pandemig byd-eang
|

Gyda dyfodiad COVID-19 yng Nghymru, daeth ansicrwydd i bob rhan o’r gymdeithas. Daeth cwestiynau i’r wyneb yn gyflym; sut a lle’r oedd y feirws yn lledaenu? Pa effaith fyddai’n ei gael ar iechyd cyhoeddus? Sut fyddai ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdrin â’r pwysau ychwanegol? A pha effeithiau tymor byr a hirdymor fydd y pandemig yn ei gael ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw?

Myfyrdodau ar Ymgynghoriadau Fideo yng nghyfnod y CV
|

Mae Allan Wardhaugh yn Ddwysegydd Pediatreg a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol (CCIO) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn arweinydd clinigol (gofal eilaidd) ar gyfer y Rhaglen Ymgynghoriadau Fideo Genedlaethol.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Allan ar gyfer Cydffederasiwn y GIG.

Meithrin eich Rebel Mewnol
|

Yn wir, mae argyfwng y coronafeirws wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau, gan ddangos pwy ohonom sy’n dilyn y rheolau i gyd yn ochelgar a phwy sy’n eu trin nhw fel awgrymiadau cwrtais, i’w hanwybyddu fel y mynnwn.  Yn y postiad blog hwn, ceisiaf adfer enw da’r rhai sy’n cymryd risgiau a rhannu fy ngobaith y bydd Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn annog y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau weithio gyda’i gilydd mewn cytgord.

Gadewch i ni wneud PROMs gyda'n gilydd!
|

Os ydych chi erioed wedi cael triniaeth neu weithdrefn ddifrifol, efallai y gofynnwyd ichi lenwi holiadur a graddio'ch adferiad ar ôl y ffaith. Gelwir yr holiaduron hyn yn Fesurau Canlyniadau a Gofnodwyd gan Gleifion (PROMs) ac maent yn dod mewn gwahanol siapiau a meintiau.

Arloesi yn ystod pandemig byd-eang – yr her Covid-19
|

Yn ystod y pandemig coronafeirws rydym wedi gweld caredigrwydd mewn pobl a chymunedau fel erioed o'r blaen. Rydym wedi gweld gweithwyr allweddol yn mynd y tu hwnt i'w dyletswydd i ofalu am y rhai sâl a bregus.

Profiad Cyflymu
|

Mae rhoi eich syniad arloesol ar waith a mynd ag ef i’r farchnad yn anodd. Yn y farchnad gofal iechyd mae tirwedd gymhleth sy’n cael ei rheoleiddio’n drylwyr.

Sut mae Cyflymu pethau?
|

Mae gennych chi ateb newydd posib i broblem gofal iechyd. Beth sy’n eich rhwystro chi rhag ei roi ar y farchnad yn gyflym?

Syniadau Iach: Beth yw e?
|

Podlediad gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw Syniadau Iach. Ym mhob pennod clywn gan wahanol feddylwyr, arloeswyr a dylanwadwyr blaenllaw yn y diwydiant iechyd a gofal, i siarad am bynciau sydd o bwys heddiw.